Mae David Willets, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth Llywodraeth Prydain, wedi cyhoeddi y bydd gwaith ymchwil i ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cyfran o fenter £18m i gefnogi Rhwydweithiau i Biotechnoleg a Bio-ynni Diwydiannol.

Mae’r Rhwydweithiau wedi eu creu i hyrwyddo cysylltiadau rhwng ymchwil academaidd a diwydiant er mwyn darparu prosesau cynaliadwy ar gyfer cynyrchu bio gynnyrch.

Bydd y rhwydwaith sy’n cynnwys mwy na 50 o aelodau academaidd ac o ddiwydiant, yn darparu llwyfan sy’n dod ag academyddion ac arbenigwyr diwydiannol sy’n gweithio ym meysydd arloesi, gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi o fewn biotechnoleg ddiwydiannol at ei gilydd.

Wrth groesawu’r datblygiad ,dywedodd Dr Joe Gallagher o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Dyma gyfle cyffrous i gyfuno arbenigedd ac adnoddau o’r byd academaidd a byd busnes fel ei gilydd i gefnogi’r bio-economi”

‘‘I lwyddo yn y maes fyd-eang mae angen i ni droi ein gwyddoniaeth ac ymchwil o safon byd yn gynnyrch a gwasanaethau o safon byd .Gellir dod o hyd i ffyrdd arloesol o ddefnyddio bwyd a gwastraff,a chreu cemegau o gelloedd planhigion,’’ meddai David Willets.

Dywedodd Dr Celia Caulcott, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi a Sgiliau y BBSRC.

“Mae’r rhwydweithiau hyn yn cynnig cyfle newydd i’r gymuned ymchwil wneud cyfraniadau sylweddol i’r bio-economi ym Mhrydain.”

Mae IBERS yn elwa o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropaidd.