April McMahon yn croesawu'r wobr
Llwyddodd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth i gipio un o’r gwobrau yn seremoni Gwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education.

Cafodd y tîm o’r adran wobr yng nghategori Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg am eu cais llwyddiannus yn canolbwyntio ar fridio a datblygu Glaswellt Siwgr Uchel (AberHSG).

Ac roedd gan rhai o brifysgolion eraill Cymru le i ddathlu hefyd, wrth iddyn nhw ac Aberystwyth, sy’n aelodau o fenter Crwsibl Cymru, gipio’r wobr yng nghategori Cyfraniad Neilltuol i Ddatblygu Arweinyddiaeth.

Roedd prifysgolion Bangor, Caerdydd, Abertawe a De Cymru hefyd yn rhan o’r Crwsibl, gyda’r wobr yn cael ei chasglu gan gynrychiolwyr o Gaerdydd.

Roedd mwy na 1000 o westeion yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty’r Grosvenor House, Park Lane yn Llundain, gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth a staff academaidd a phrifysgol ar draws y sector.

Aber yn clodfori

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth fod gan y Glaswellt Siwgr Uchel y potensial i drawsnewid amaethyddiaeth da byw ar dir glas, ac yn gallu arwain at gynnydd mewn cynhyrchu cig a llaeth o 24% a lleihau allyriadau methan a llygrwyr nitrogenaidd o hyd at 20%.

Ac fe roddwyd croeso gwresog i’r wobr gan Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, ac Is-Ganghellor y Brifysgol April McMahon.

“Mae datblygu mathau newydd o blanhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galw am ganolbwyntio ar waith tîm ac ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir,” meddai Wayne Powell.

“Mae’r hyn a gyflawnwyd gan y tîm yma heddiw yn adeiladu ar dreftadaeth ein rhagflaenwyr yng Ngorsaf Fridio Planhigion Cymru a Sefydliad Y Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol.”

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y wobr fawreddog hon, yn enwedig mewn maes sydd yn arddangos arbenigedd byd-enwog IBERS,” meddai April McMahon.