Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi croesawu penderfyniad Prifysgol Rhydychen i gynnig gostyngiad yn ffïoedd dysgu myfyrwyr o Gymru sy’n dod o deuluoedd ag incwm isel.

Yn dilyn pwysau gan Lywodraeth Cymru, mae’r Brifysgol wedi gwyrdroi’r penderfyniad i beidio â chynnig gostyngiad mewn ffïoedd oherwydd y darpariaeth ariannol hael sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr o Gymru.

Dywedodd Huw Lewis: “Mae hyn yn newyddion gwych i fyfyrwyr sydd ag uchelgais i astudio yn un o’r sefydliadau mwyaf uchel ei barch yn y byd.

“Dw i’n credu mai dyma’r agwedd iawn ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu cymorth ariannol hael i fyfyrwyr sy’n dod o gefndir incwm isel.”

Mae Llysgennad Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt yng Nghymru, Paul Murphy wedi croesawu penderfyniad y Brifysgol.

Meddai: “Fel hyrwyddwr dros fyfyrwyr o Gymru sy’n gobeithio cael lle ym Mhrifysgol Rhydychen, dw i wrth fy modd bod y Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad hwn.”