Mae’r corff sy’n cyllido addysg uwch yng Nghymru wedi amcangyfrif y bydd yn talu £50m y flwyddyn nesaf i brifysgolion Lloegr.

Mae hyn ddeg gwaith yn fwy na’r £5m bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ei wario ar ymchwil ôl-raddedig yng Nghymru.

Mae CCAUC wedi cyhoeddi y bydd yn dyrannu £382 miliwn ar gyfer addysg uwch ym mlwyddyn academaidd 2013/14, sy’n cynnwys £50m tuag at addysg myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn bennaf yn Lloegr, a hefyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae CCAUC yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n amcangyfrif y bydd prifysgolion Cymru yn eu tro yn derbyn £87m mewn ffioedd dysgu gan fyfyrwyr o weddill y Deyrnas Unedig.

Polisi dadleuol

Mae polisi Llywodraeth Cymru o dalu am ffioedd myfyrwyr Cymru sy’n dewis astudio yn Lloegr a thu hwnt yn un dadleuol. Y llynedd dywedodd yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth fod y polisi yn “gwanychu” ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd y Gymraeg.

“Pam ein bod ni’n rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr Cymru i fynd i astudio yn Lloegr?,” meddai.

“Dylech chi ddim fod yn ei gwneud hi’n haws i bobol ifanc, alluog adael y wlad,” meddai wrth Golwg360.

Cyllid yn debyg i un eleni

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Dr David Blaney, ei fod yn disgwyl y bydd cyllid prifysgolion a cholegau Cymru y flwyddyn nesaf yn debyg i eleni.

“Nid ydym yn disgwyl i’r sector addysg uwch yng Nghymru dderbyn llai o ffioedd a chyllid cyhoeddus cyfun yn gyffredinol yn y flwyddyn academaidd nesaf o ganlyniad i’r newidiadau yn y ffordd rydym yn cyllido,” meddai.

“Yn wir, os yw recriwtio o Gymru a gweddill y DU yn fywiog, mae pob rheswm dros dybio y gall incwm i brifysgolion gynyddu.

“Gydag ystod o fwrsariaethau costau byw a chymhellion eraill yn cael eu cynnig gan brifysgolion, ynghyd â threfniadau cymorth ffioedd hael, mae addysg uwch yng Nghymru’n parhau i fod yn opsiwn da i fyfyrwyr.”