Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.

Dyma ganllaw i gewri Grŵp H, Sbaen – a fydden nhw’n cipio’r gwpan am y tro cyntaf erioed?


Y Wlad

Poblogaeth: 45 miliwn

Prif iaith: Sbaeneg

Prifddinas: Madrid

Arweinydd: Y Prif Weinidog José Luis Rodríguez Zapatero

Llysenw: La Furia Roja (y ffyrnigrwydd coch)

Yr hyfforddwr

Vicente del Bosque

Del Bosque oedd olynydd John Toshack fel hyfforddwr Real Madrid yn 1999, gan arwain y clwb mewn cyfnod euraid pan enillwyd Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith a La Liga ddwywaith. O gael ei benodi’n hyfforddwr Sbaen yn 2008, etifeddodd dîm llwyddiannus Luis Aragonés a oedd newydd ennill Pencampwriaeth Ewrop. Gyda Sbaen yn ennill pob un o’i gemau yn y rowndiau rhagbrofol, mae’n amlwg fod gan Del Bosque y gallu i asio criw o chwaraewyr hynod dalentog yn uned effeithiol. Bydd cryn bwysau arno yn Ne Affrica i ennill Cwpan y Byd i Sbaen am y tro cyntaf erioed.

Y Daith

Chwarae deg ac ennill deg oedd record ddilychwyn Sbaen yn y gemau rhagbrofol. Sgoriwyd pum gôl ar ddau achlysur, gartref yn erbyn Gwlad Belg ac oddi cartref yn erbyn Bosnia ac Herzegovina.

Y Record

O ystyried rhagoriaethau pêl-droedwyr a chlybiau Sbaen dros y blynyddoedd, mae’n syndod cyn lleied o lwyddiant a gafodd Sbaen yn rhyngwladol. Cafodd hyfforddwyr drafferth i greu tîm o blith chwaraewyr talentog o glybiau a oedd yn casáu ei gilydd, yn arbennig felly Real Madrid a Barcelona, a simsan fu’r perfformiadau yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Daeth Sbaen yn bedwerydd yn 1950 a’i pherfformiad gorau yn ddiweddar yw cyrraedd y rownd gogynderfynol yn 2002, cyn colli i Dde Corea o giciau o’r smotyn, diolch i benderfyniadau gwael gan y dyfarnwr.

Sêr o’r Gorffennol

Alfredo di Stéfano:

Chwaraeodd pêl-droediwr gorau’r 1950au dros ei wlad enedigol, yr Ariannin, a Colombia, cyn derbyn y caniatâd i wisgo lliwiau Sbaen, wedi iddo symud i chwarae i Real Madrid. Sgoriodd 216 gôl mewn 282 gêm i Real gan serennu yn nhîm hynod lwyddiannus prifddinas Sbaen a enillodd Gwpan Ewrop ar bump achlysur yn olynol. Gwaetha’r modd ni chwaraeodd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Raúl:

Sgoriodd blaenwr Real Madrid 44 gôl mewn 102 o gemau dros ei wlad rhwng 1996 a 2006, ac mae’n parhau i rwydo dros ei glwb. Chwaraeodd yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd deirgwaith.

Andoni Zubizarreta:

Enillodd y gôl-geidwad tal 126 o gapiau rhwng 1985 a 1998, gan chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd bedair gwaith. Ef oedd yn y gôl pan enillodd Barcelona Gwpan Ewrop am y tro cyntaf erioed yn 1992.

Gwyliwch Rhain

David Villa:

Mae Villa ar dân yng nghrys ei wlad ar hyn o bryd gan sgorio 37 gôl mewn 55 ymddangosiad hyd yn hyn. Er y cysylltir ef yn aml â throsglwyddiad i un o glybiau mawr Ewrop, mae’n parhau’n ffyddlon i Valencia. Bydd ei bartneriaeth â Torres yn allweddol i lwyddiant Sbaen yn Ne Affrica.

Xavi ac Iniesta:

Mae’n anodd gwahanu’r ddau yma sy’n rheoli canol y cae dros Barcelona a Sbaen. Yn 2009 daeth Xavi’n drydydd ac Iniesta’n bumed yn y bleidlais am Chwaraewr Gorau’r Byd, y tu ôl i’w cyd-chwaraewr yn Barcelona, Messi. Yn sicr bydd disgwyl i Xavi ac Iniesta greu’r cyfleoedd i Torres a Villa yn Ne Affrica.

Y Seren

Fernando Torres

Uchafbwynt gyrfa Torres hyd yn hyn yw sgorio unig gôl rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop yn 2008 a bydd yn gobeithio efelychu’i gamp yn Ne Affrica. Hyd yn hyn mae wedi rhwydo 23 gôl dros ei wlad. Mae’n arwr ar faes Anfield, gan ddilyn traddodiad Roger Hunt ac Ian Rush o flaen y gôl, ac mae ei bartneriaeth gyda’i gyd-flaenwr David Villa yn rheswm da dros osod Sbaen ymhlith y ffefrynnau i gipio Cwpan y Byd yn 2010