Non Tudur sy’n bwrw golwg ar ffenomenon diweddar’ byd Twitter y Cymry Cymraeg – gwersi cynganeddu…

Mae yna griw o bobol sydd wedi dechrau gwneud Twitter yn lle diflas ar y naw i bobol eraill. A bob wythnos, mae’r criw yn tyfu ac yn ymwroli.

Dw i’n sôn am y bobol hynny sy’ wedi ymuno â’r gwersi cynganeddu cyntaf erioed ar Twitter, o dan ofal athro atebol o’r enw @Cynganeddu.

Am awr bob wythnos, mae wedi dechrau cynnal gwersi syml, sy’n symud fesul y cam bach lleia’. Dim ond dwy wers sydd wedi bod hyn yma – dyw ddim rhy hwyr i unrhyw un ymuno.

Dy’n ni ddim yn gwybod pwy yw’r athro amyneddgar sy’n rhoi ei (h)amser yn rhad ac am ddim – hyd y gwyddwn ni – a does dim angen gwybod arnon ni chwaith. Mi fyddai rhoi wyneb i’r athro yn sbwylio hwyl y peth rywsut. Fel hyn mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal (mewn cyfweliad dienw ar flog y rhaglen Pethe wedi’r wers nos Fawrth eglurodd: “Ma hyn yn wasanaeth sy’n fwy nac un person ac yn rhywbeth sy’n mynd i weithio’n well o’i gadw yn ddienw. Nid hawlio clod yw’r bwriad…”). Ac efallai y cawn ni osgoi’r hen arfer dwl yna o drio plesio’r athro drwy gyfeirio ato yn goeglyd mewn llinellau gwantan.

Mae’r gwersi wedi dechrau’n syml iawn – trwy ddangos sut i acennu (“cyn creu, rydym am gyfri sillafau”, eglurodd y meistr nos Fawrth) cyn cyflwyno’r gynghanedd Draws Fantach yn ofalus. Mae pobol nawr wedi dysgu’r gwahaniaeth rhwng geiriau acennog (sy’n gorffen â phwyslais ar y sill olaf) a rhai diacen (sy’n gorffen â’r pwyslais ar y sillaf olaf ond un, neu’r ‘goben’).

Maen nhw’n rhy hawdd wrth reswm i rai ar y dechrau fel hyn, ond maen nhw’n fwy o her i eraill sydd heb yr un gafael ar orgraff yr iaith a’i geirfa gramadegol. Ond mae pawb yn dod iddi. Dyna sy’n dda – mae’r athro yn gyson amyneddgar, ac yn gwbl broffesiynol.

Trwy gydol gweddill yr wythnos, mae’r Mishtir/Misus @Cynganeddu yn rhoi cynghorion ar hanfodion y Gerdd Dafod, yn ail-drydar ryw gynghanedd hwnt ac yma ac yn argymell ambell lyfr handi. A bydd wastad yn canmol pawb am eu hymdrechion.

Ie – canmol. Mae’r weithred fach yma yn rhan anorfod o ddysgu’r gynghanedd, hyd y gwelaf i. Rhaid i’r athro ganmol pawb am eu hymdrechion, yn ddiwahân i’w cymell i barhau ar hyd y llwybr caeth. Un o’r pleserau fel disgybl yw’r ganmoliaeth eithafol y byddwch yn ei chael am gael llinell yn gywir. Yn union fel plentyn bach yn dysgu sut i adio dau a dau. Efallai bod Gerallt â’i reol ‘naw-a-hanner-allan-o ddeg-i-bawb’ ar raglen y Talwrn ar fai yn hyn o beth, ond r’ych chi’n cael ryw bleser gwirion o gael ‘perffaith!’ am eich ymdrech dila i lunio Traws Fantach. Ac wrth gwrs, ar Twitter, mae pawb yn gweld.

A dyna ichi’r broblem. Wrth i ran o drobwll y sgwrsio nosweithiol Cymraeg ar Twitter droi at y gynghanedd, roedd yna rai yn diflasu. Rhai nad oedden nhw wedi ymuno â’r wers er yn ymwybodol ohoni, na chwaith yn dilyn @Cynganeddu ac yn wfftio’r holl ffys am gynganeddu, sy’n ddigon teg. Ond maen nhw’n dilyn sawl disgybl – ac felly mae’r hashnod #gwers neu #cynganeddu yn bla dros eu sgrin. Chwarae teg, nid beirdd o fri sydd wrthi, ond amaturiaid hollol. Ac mae hi’n anodd ar y naw osgoi’r gynghanedd yn gyffredinol yng Nghymru y dyddie ’ma.

Ond mae Mistar @Cynganeddu wrth ei fodd â’r diddordeb. Ar ôl y wers nos Fawrth, mi fuodd rhai’n ymarfer y Draws Fantach tan ganol nos. ‘Mae’n wych gweld cymaint o gynghanedd heno ar Twitter’, meddai’r athro balch. Mae’n amlwg yn ei elfen – ‘Mae diddordeb rhyfeddol yn cael ei ddangos gan bobl’ meddai wrth rywun ddoe.

Mae wedi casglu gwersi 1 a 2 ynghyd ar raglen Storify – gweler y lincs isod – er mwyn i chi swotio cyn ymuno â #gwers 3 wythnos nesa. Ond, cofiwch da chi, dyw cynganeddu ddim at ddant pawb, felly byddwch ddarbodus. Ond dw i’n siwr bod y ‘wrach fantach’ wrth ei bodd…

Blog rhaglen Pethe ar S4C

http://storify.com/Cynganeddu/dysgu-cynganeddu-gwers-1

http://storify.com/Cynganeddu/dysgu-cynganeddu-gwers-2