Mae yna rywbeth Nadoligaidd, cyflawn, lle-i-bopeth-a-phopeth-yn-ei-le ynglŷn â chreu rhestr diwedd y flwyddyn.

Fel wnes i sôn wrth Mrs. Lingual gynne fach, baswn i’n eithaf tebyg o greu rhestr o’r fath yma ta beth; ac yn wir mae’r rhaglen www.twitter.com yn annog ei ddefnyddwyr i gadw restr o “ffefrynnau” felly mater bach a hwylus oedd dethol y deg uchaf at eich sylw.

Hefyd, i fod yn blwmp ac yn blaen ynglŷn â’r peth, fel arfer mae @golwg360 yn hela allan neges ar y trydar i ddatgan bod fy mlog diweddara wedi’i gyhoeddi, felly prin y byddai unrhywbeth yn fwy bachog na rhoi “Y Deg Dethol Trydar 2012” i’w gyflwyno i’r 4,000 a mwy o ddilynwyr?

Cofiwch chi, hyd yn oed os nad ydych chi yn dilyn trydar fel rheol, gallwch ymweld â www.twitter.com/golwg360 am y storïau diweddaraf, yn ogystal ag ymweld a’r dolenni i’r ‘Deg Dethol’ isod.

Felly, yn ôl fy nodiadau i o edrych ar fy rhestr “ffefrynnau” ar fy nghyfrif(au) , dyma fy hoff drydar o 2012:

1) MT: @NosworthyR “Meddwl am #jamiebevan sy’n treulio noson yn y carchar heno”

Y rheswm dw i wedi rhoi hwn ar frig y rhestr yw bod y digwyddiad yma yn yr haf wedi bod mor ddylanwadol.  Petaech yn edrych yn ôl dros y cyfnod yna, nid dim ond fy mlog i ar www.golwg360.com/blog a oedd yn sôn amdano chwaith.  Rhaid cofio hefyd am y straen wnaeth penderfyniad dewr a balch Jamie ei achosi a’r faith ei fod ef a’r rhai sydd yn agos ato dal i gario’r straen yna hyd heddiw.  Bi-bop-y-loopa-y-Seren-Aur i Jamie felly.

(gweler) https://twitter.com/NosworthyR/status/235132952814686208

2) @carysmai : “yn gyffredinol dyw pobl cefn gwlad Ceredigion ddim yn lico clapio dwylo ar yr off-beat”

Efallai mod i braidd yn unllygeidiog ynglŷn â’r trydar yma, gan mod i’n ddigon hen i gofio Carys yn cyflwyno rhaglen blant ar Radio Ceredigion ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ond ta waeth am hynny mae grym cymdeithas i gydymffurfio yng nghefn gwlad yn cael ei weld fan hyn. Dw i’n credu. https://twitter.com/carysmai/status/208999187273101315

3)   @gruffsion : Dwi’n 24, hoffi’r sinema, yn fodlon teithio ag hefo meddwl agored #yrawrgymraeg

Dwi’n eithaf sicr bod y trydar “Od” yma wedi glanio o feddwl un o’r band o’r un enw.

Mae @yrawrgymraeg yn arwain a chydlynu cyfle wythnosol ar nos Fercher i hybu busnesau’r wlad yma sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng Gymraeg, neu sydd am sôn am eu gwaith o dan yr hashtag yna. Fel y byddai dyn yn disgwyl, mae @dailingual a ‘Lle Busnes’ y wefan yma ymysg y cyfranwyr cyson, felly ymwelwch â’r hashtag i ddod o hyd i fusnesau Cymreigaidd yn eich ardal chi …

Dwi’n credu taw dynwared hysbysiad pobl sengl oedd Gruff … Ond fel y gwelwch chi ar y ddolen oddi tanodd, dyw hi ddim ymddangos fod pawb wedi deall hynny yn hollol …

https://twitter.com/gruffsion/status/268813191004434433

4) @elliwiw Y tro cyntaf i beiriant ffocopio wneud imi chwerthin #jammin

Hunan esboniadwy … yn arbennig i’r rhai ohonom sy’n hoffi bach o ‘reggae’! Hoffwn ychwanegu fod Elliw yn un o’r rhai sy’n sicrhau fod y noson werin hynod lwyddiannus @cwpwrddNansi ymlaen yn @GwdihwCafeBar  ar drydedd Nos Fercher bob mis.

https://twitter.com/elliwiw/status/274169247616360449

5)      Roedd e’n arwydd a oedd wedi cael ei weld mewn sawl man mae’n siŵr, ond fel mae’n digwydd Ian Tagg ( @taggiii ) ddaeth â’r iaith Wyddeleg yn Coryton, Caerdydd i fy sylw … er taw Gwydion Lyn dynnodd y llun gwreiddiol!

https://twitter.com/taggiiii/status/255004248834715648

6)   Mwy o drydar di-Gymraeg o ran iaith, ond byddwn i yn argymell dilyn @realtimeWWII am enghreifftiau difyr o newyddion y wlad yn ystod y cyfnod hynny, gan gynnwys sôn am laeth o ansawdd gwael oherwydd y bomio yng Nghymru a oedd wedi codi ofn ar y gwartheg! :

Roedd y ffarmwr o’r ardal yma mae’n debyg, yn y Fro ger y Barri, a’r manylyn gwreiddiol wedi ei gymryd o’r New York Times ( gyda diolch i @catrinms am holi am y manylion yna’n syth bin!).

https://twitter.com/RealTimeWWII/status/237657572340011009

7) “Pwynt da” meddai @carylparryjones pan wnaeth @shyffl godi gwrychyn ynglŷn â’r diffyg hollol o’r iaith Gymraeg gan @welshrugbyunion cyn tymor yr hydref.

Bydden i wedi llwyddo i beidio â mynd i unrhyw gêm hefyd, oni bai am ymweliad gan deulu o dramor a oedd yn cynnwys mynd i weld Cymru yn chwarae Samoa. Gallwch ddychmygu mor bles oeddwn i sicrhau tocyn i – a gorfod gwylio – y gêm yna.

https://twitter.com/carylparryjones/status/252543582857224193

8)   Enfys dros Borth… via @annettestr , sy’n trydar yn Almaeneg, Saesneg a Chymraeg.

https://twitter.com/annettestr/status/236117397344501760

9)   @cardiffrinj :

https://twitter.com/Cardiffrinj/status/257205967635243008

…wedi traethu digon am hynny mae’n siŵr.

10) Gangnam style Cymraeg! i orffen

Bach o sbort i orffen…cyfarchion y tymor i chi gyd.

https://twitter.com/DaiLingual/status/279982320608481281