Bu Dai Lingual yn mwynhau’r Ŵyl Cerdd Dant yn Llandudno’n ddiweddar…

Un o’r prosiectau mwyaf difyr dwi’n ymchwilio ar hyn o bryd yw’r cyfle i greu gwefan i hybu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.  Yn sgìl hyn, ymwelais â’r Ŵyl Cerdd Dant yn Nyffryn Conwy yn Nhachwedd i ddysgu mwy am y sîn.

Wrth imi droedio mewn i’r Ŵyl wedi taith ddidrafferth o’r brifddinas ac archebu tocyn ar garden credyd y cwmni (diolch Dai!), yn syth bin roeddwn i’n gweld wynebau cyfarwydd o gynefin fy magwraeth yn hybu’r Ŵyl Cerdd Dant a fydd ym Mhontrhydfendigaid yn 2013, ac felly ymgartrefais yn ddigon hwylus.

Yn ogystal â’r croeso cynnes fydd yn ardal Ystrad Fflur flwyddyn nesaf,  testun y sgwrs rhwng Selwyn Jones a minnau oedd datblygiadau cyffrous Radio Beca – sef gorsaf gymunedol newydd sydd ar fin dechrau yng Ngorllewin Cymru.

Gwraig Selwyn, sef Neli Jones yw arbennigwraig y maes, ac roedd mor llawn o wybodaeth ddefnyddiol nes i mi ofyn iddi ysgrifennu pwt bach rhag ofn byddai’r cof yn pallu.  F’annog i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y gyfansoddwraig Grace Williams oedd un o’u hargymhellion, gan fod gen i ddiddordeb mawr yn yr ymdrechion sydd wedi bod i gyfuno’r arddull glasurol gyda’n cerddoriaeth draddodiadol cyn heddiw.

Mae’n debyg fod y ddwy arddull yn dra gwahanol i’w meistroli, a’i bod hi’n anodd symud yn llwyddiannus, neu’n naturiol o’r un i’r llall.

Bum yn siarad â stondin y Gymdeithas Gerdd Dant am fy nghynllun wrth reswm, ac erbyn hyn rydw i’n aelod o’r gymdeithas honno a drefnodd ŵyl hwylus ac urddasol yn Llandudno.

Haleliwia

Yn y pafiliwn ei hun, Steffan Rhys Huws a oedd yn serennu eto, ond y deuawdau Cerdd Dant oedd wedi plesio fy nghlust fwyaf wrth i’r alawon a’r harmoni gyd-fynd a gwrthgyferbynnu; hyfryd.

Erbyn hyn byddai hyd yn oed Ebenezer Scrooge fel finnau efallai’n gallu mwynhau’r nifer o ddetholiadau Nadoligaidd a oedd wedi’u paratoi’n drylwyr ar ein cyfer, ond ta beth roedd un cyflwyniad o garol am Fethlehem gydag ambell i fenthyciad o “Haleliwia” gan Leonard Cohen wedi creu cymuned am ennyd yn y neuadd.

Gwelais yr undod yn eu hwynebau megis llecyn o lonyddwch yn stormydd anodd yr arddegau, pabis yn sblash o liw cyn Sul y Cofio.  A’r ddelwedd o lanc yn ymbil ar ei luniau yn angylaidd yn dal i fod yn gofiadwy.

Piti garw nad oedd cymaint o sylw wedi cael ei roi i’r ferch ifanc o Gaerdydd gyda’u cyndeidiau Asiaidd a oedd yn fuddugol yn yr Ŵyl Gerdd Dant o’i gymharu â’r sylw llai cadarnhaol a chaeth Gŵyl arall yn ddiweddar.  Yma’n amlwg roedd delwedd o undod rhwng y gwahanol ddiwylliannau rydym yn lwcus i allu mwynhau yng Nghymru fach.

Braf oedd gweld sawl wyneb cyfarwydd o’r diwylliant Cymraeg yn flaenllaw yn Llandudno – “yr un rhai” fel maent yn dweud – sy’n dweud cymaint am ddiffygion eraill yn ogystal â’u parodrwydd i aberthu eu hamser a’u hegni er mwyn cefnogi’r sector.

Siarad siop

Wrth geisio edrych ar yr ymateb i groeso Dyffryn Conwy ar y  trydar, doedd fawr o sôn yn dod i’r amlwg imi, ond yna roeddwn i’n chwilio am yr hashtag anghywir – dwi’n credu taw #gcd2012 oedd yn iawn, ond wedyn dydw i erioed wedi bod yn “ffan” o acronyms.

Des ar draws cyfarfod cyhoeddus yr wythnos hon, lle’r oedd y Cadeirydd wedi sylwi faint o acronymns – neu ‘jargon’ i ddweud y gwir ydy hynny ie – roedd pobl yn eu defnyddio. Roedd yn erbyn hynny’n llwyr, ac rydw i o’r un farn.

I ymhelaethu rywfaint ar y thema, fel Cymry ni yw’r rhai cyntaf i gwyno nad yw pobol yn ein cynnwys ni yn eu defnydd o iaith, ond rhaid cofio’r un fath pob tro rydym yn talfyrru ystyr. Hyn sydd hefyd yn cadw pobol y tu allan i’r system felly sy’n parhau i ganoli (yn hytrach na datganoli’r ) y grym gyda’r rhai sy’n berchen ar yr iaith hollwybodus.

Ers yr Ŵyl, dwi wedi bod yn hapchwarae gyda @garethiwan , cynhyrchydd sioe @lisagwilym ym Mangor, am gyfansoddi darn o gerdd dant deche’ fy hun. Nid yw’n edmygwr mawr o’r “tooth music” fel mae’n hapus i gyfaddef, ond efallai nad oedd yn gwybod bod un o’i hoff fandiau’r Cowbois Rhos Botwnnog wedi ceisio cyfansoddi darn i’r Ŵyl, a chafodd ei berfformio ar lwyfan Llandudno.

Fodd bynnag, diwrnod bach digon da, ond rywsut i gymharu â’r sioe arall es i weld yn ddiweddar, ‘Dirty Dancing’ yng nghanolfan y Mileniwm, doedd Llandudno heb achosi imi wylo’n gyhoeddus. Er efallai bod hynny’n dweud gormod am fy naliadau i…?

Felly a oes rhywun arall eisiau “bet” – a fydd posib cael sioe gerdd Gymreig gyda cherddoriaeth draddodiadol Gymreig i lenwi Canolfan y Mileniwm yn 2013?