Doeddwn i ddim yn mynd i sgwennu hwn heno, ond mae’n werth i mi nodi bod fy micro-ymgyrch diweddara ar fin mynd yn “firal”…

Pe baech am esboniad llawn o beth yw marchnata feiral ; ewch draw i – www.blogwyrbro.com/2012/08/06/beth-yw-marchnata-viral

Ond yn y bôn trosglwyddo neges heb i’r rhai sy’n cario’r neges wybod eu bod yn hybu rhywbeth hefyd yw marchnata firal.

A heno ma, y neges yw Cardiffrinj Caerdydd, sef Ŵyl arbennig i groesawu Gŵyl Gerddoriaeth y Byd Womex i Gaerdydd yn 2012.
 

Felly sut mae llwyddo i fynd yn “viral” ar twitter?

Amseru yw pob dim

Sgwennais nodyn i fy hun wedi cyfarfod diweddar fod angen ffordd o ymchwilio’r nifer y defnyddwyr sy’n deall y Gymraeg yn hytrach na’r nifer sy’n trydar yn yr heniaith; y ‘mwyafrif mud’ os mynnwch chi. [Gyda llawn, diolch i “Beth” a “Amanda Williams” am ail-drydar y neges ymchwil yna.]

Unwaith gewch y cyfle, amdani!

Yn y man cyntaf, gore po gynted. Bydd rhywun arall efallai yn meddwl yr union ‘run fath ac mae’r cyfle yn cael ei golli.

A oes angen cuddio’r cleient?

Yn yr achos yma, does fawr o neb yn mynd i wrthwynebu’r syniad o gael Gŵyl Gymreig i groesawu WOMEX i Gaerdydd, ond serch hynny petawn i wedi rhoi e-bost @dailingual ar y proffil www.twitter.com/cardiffrinj , pwy a ŵyr a fyddai cymaint yn fodlon lledu’r neges…rhan o apêl trydar yw ei fod e’n gyfartal i bawb…yn arbennig pan nad oes amser neu’r cyfle – neu’r rheswm – i roi llun : mae pawb yn deor o’r un ŵy fel petai.

[diolch ‘juxtaposed’ am RT]

Felly sut deimlad yw hi i weld y neges yn mynd o le i le?  Does dim sicrwydd ym mha drefn mae’n lledu, does dim coeden deuluol yn cael ei harddangos gwaetha’r modd!

Wel ar y sgrîn ma fe tipyn bach fel gwylio gem bêl-droed (neu bêl-droed Americanaidd efallai) – chi i raddau yn aros am y  sgrin i adnewyddu ei hun…bach yn drist yndyfe?  ; (

Ond mae’n teimlo fod yr holl oriau yn syllu ar y sgrin yn dod i olygu rhywbeth nawr; 6 ‘RT’ yn y 15 munud diwethaf bron i un bob yn ail funud..petai hyn yn parhau drwy’r nos…a chofiwch chi mae Cymry ar hyd y byd ar twitter!

[Cerys Anna Bowen ac Amanda Loosemore wedi ail-drydar gyda diolch – nifer fawr o fenywod yn RT heno dwi’n gweld]

“You are what you Re-Tweet”

I raddau byddwch chi yn llenwi eich llinell amser gyda phob math o rwtsh wrth fynd o ddydd i ddydd…ond dim ond y crème de la crème a welwch chi o drydar eraill newch chi ystyried ailadrodd.

Seicoleg ddiddorol yndi?

[Côr Caerdydd a Sian Golden yn ail drydar]

Dilynwch y rhai sy’n RT

Does dim sens yn anwybyddu’r rhai sy’n ymddiddori yn yr hyn sydd gennych i ddweud; felly mae’n werth cydnabod y rhai sy’n ailadrodd eich trydar trwy eu dilyn nhw.

[Diolch Sali, dilynaf i chi pan ga’i gyfle felly]

Does dim clem gen i pan mae’r neges yma wedi cael ei bigo lan gan y merched gyda llaw;

hoffen i ymffrostio ryw ‘chydig ynglŷn â hynny ond dwn i ddim i ddweud y gwir.

Rhowch bobol yn y sefyllfa le maent yn teimlo bod hi’n foesol i ail-drydar

Digon hawdd gyda’r Cymry Cymraeg falle, mae defnyddio’r iaith ar-lein yn ddigon o reswm i ddathlu, ac yn yr un modd mae pob un ohonom yn clicio’r botwm ar fanc-y-wal rhag ofn eu bod yn cadw cofnod o sawl person sy’n defnyddio’r Gymraeg (ac maen nhw yn cyfri, gyda llaw), yn yr un modd bydd trydadwyr yn dueddol o clicio’r botwm i ail-drydar rhag ofn fod rhywun yn cyfri. Wel dwi’n cyfri, wrth reswm!

[diolch Llywelyn Hopwood]

“Felly beth oedd y trydar?” medde chi:

“Clywed heddiw nad oes sicrwydd sawl un sy’n trydar yn y Gymraeg….sens yn dweud fod mwy yn deal na sy’n trydar..RT os y chi’n deal hwn felly!”

Dylen i ychwanegu wrth gwrs y gallwch chi ddychmygu eich cwmni chi yn cael ei ail-drydar..

a breuddwydio byddwch chi hefyd os nad ydych ar twitter hyd yn oed!

Sai’n siŵr am ba hyd fydda i’n gallu cadw lan gyda’r RTs nawr…thick’n’fast fel ma Captain Beefheart yn dweud (neu ife bulbous oedd hwnnw’n dweud?). Mi fydd rhywun ar y trydar yn gwybod hynny mae’n siŵr.

[diolch Lowri Griffiths a Dr.Gonzo am RT-io!]

Nawr, byddai Dr Gonzo yn un o’r bobol dwi’n targedu gyda’r Ŵyl yma fel potensial participant fel medde nhw yn Bow St, felly ma hynny’n esiampl dda o’r ymgyrch yn bwrw’r nod fel petai. Pob un yn bwysig wrth gwrs o ran RT, ond wedi’r cwbl bydd angen artistiaid i chwarae…sai’n cofio’n iawn a nes i ychwanegu Dr Gonzo neu beidio…

Peidiwch ychwanegu’n wyllt

Yr ymadrodd “Chwaneg” oeddwn i’n defnyddio ar myspace, hynny’n well ymadrodd mae’n siŵr nag ‘adio’.  Ond mae hyd yn oed y marchnatwr mwyaf profiadol wedi llosgi ei fysedd ambell dro trwy adio ac adio. Ac yna gweld eich bod wedi cael eich neilltuo o ddefnyddio’r gwasanaeth o gwbl gan eich bod chi yn spamio!

[diolch am ail drydar Tomos Yeeles]

A sai moyn dechrau gwneud sylwadau yn ormodol a dechrau dychan yr enwau (ffug – o bosib) yma, felly falle bod hi’n well mod i’n gadael pethau fynna am heno, neu byddwn ni yma am byth boneddigion a boneddigesau…

[diolch Rhian Williams a Rhys Davies, enwau cyfarwydd Cymreig , cartrefol]

Reit na ddigon. Nos da.

Targedau bach

Newydd sylweddoli, efallai bydd ambell un yn meddwl, ie digon teg ond pam poeni am ledu’r neges trwy gyfres o drydadwyr “llai” pan ma dyn yn gallu ymbil am RT o rywun a 100,000 dilynwr ac mae un o reiny werth 50 RT bach?

Ond bydd y 100,000 o bobl yn gweld chi yn ymbilio’r gyhoeddus, sut mae hynny’n neud i chi edrych?  A gwaeth fyth boed hynny’n adlewyrchu ar eich busnes os mae dyna yw nod eich trydar yw hybu hynny?

Felly :

Byddwch yn hyderus yn eich neges ac yn eich diben, peidiwch ymbil!

[diolch Ronald McDonald – wir! – Michelle Pugh, Catrin Sykes, Huw Owen, Steffan Cennydd yn y cyfamser]

[felly hefyd Caroline Davies ac Alex Roberts – credo falle taw’r canwr yw e ife?]

Traddodiadol

Ar nodyn hollol wahanol, dwi’n hoffi hysbysebu plaen a syml hefyd yn ogystal â’r stwff sybliminal yma. Nes i ofyn i Mrs Lingual gynne a oedd yr ad yna ar y teledu yn meddwl y bydden ni oll fel teulu yn gallu cael gwyliau ar yr ynysoedd Groeg am £365…na, “per person” yw hynny mae’n debyg.

[diolch Amber ]

Amser am goch i atal nawr greda i.

[diolch Jobbins am 2il Drydar!]

23:57 1/11/12 Y neges uchod wedi cael ei hail-drydar 472 gwaith…hyd yn hyn!