Daeth y pwt bach yma i’r fei yng ngholofn olygyddol rhifyn Awst 23 o gylchgrawn Golwg. Meiddiaf ddweud ei fod yn parhau’n lled berthnasol yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Leighton yr wythnos hon ei fod am i griw ystyried ambell safle parhaol i’r Brifwyl…

Swigan y Steddfod

Cwestiwn oesol y Steddfod: teithio neu beidio?

Y ddadl dros deithio yw rhoi’r cyfle i ‘Gymreigio’ ambell ardal a chyfle i Steddfodwyr ddod i adnabod cornel gudd o Gymru.

Dyna nod sy’n ddigon clodwiw, ond ydy hynny’n digwydd go-iawn erbyn hyn?

Yr argraff o Steddfod Bro Morgannwg oedd fod pawb yn hapus i gasglu ger amryfal fariau’r Maes a mwynhau’r bandiau ar y llwyfan roc anferth.

Doedd dim byd yn bod ar hynny, ond wrth deithio i Lanilltud Fawr ar y Sadwrn olaf roedd hi’n amlwg nad oedd y Steddfod yn cyffwrdd bron ddim â’r lle.

Roedd yr hoelion wyth yn y clwb rygbi ar gyfer perfformiad nwydwyllt Jess, ond roedd y mwyafrif llethol yn dal i fod ar y safle swyddogol yn mwynhau Maes B.

Os ydy pawb am aros yn eu hunfan i gael popeth ar un safle, o’r cystadlu arferol i’r meddwi a’r malu awyr tan oriau mân y bore, be’ ydy pwynt Steddfodol symudol?

Oni ddylid cael safle parhaol sy’n weddoll gyfleus i bawb?

O gofio tirwedd ein gwlad a’i lonydd uffernol, mae’r Bala cytsal lle ag unman i osod y babell binc yn barhaol.

Fel mae Al Tŷ Coch yn ei ddweud yn Golwg yr wythnos hon am y dref lle mae’n gynghorydd diwyd: “Rydan ni’n tynnu pobol ddiarth o’r arfordir, o’r Gororau, o Glwyd, o Sir Fôn. Mae’r Bala yma’n ganolig; ryw awr ydach chi o’r Bala o boblogaeth eitha’ sylweddol.”

Ac mae’r ardal hon o Gymru, gyda’i golygfeydd godidog a’i gweithgareddau chwaraeon amgen, yn cynnig rhywbeth i’r rheiny sy’n fwy o fois am y canŵ na chynghannedd.

Ymhellach, wrth ymateb i fygythiad i 120 o swyddi mewn becws yn Y Bala roedd cynghorydd lleol yn galw am gefnogaeth i economi’r ardal.

“Mae’r bygythiadau yma i’r swyddi yn Cake Crew wedi dangos pa mor fregus ydi cyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal yma,” meddai Dilwyn Morgan.

Mae’n ffasiynol ers blynyddoedd ymysg ymgyrchwyr iaith i alw am symud swyddi S4C a Chomisiynydd y Gymraeg i’r Fro Gymraeg.

Ond faint o hwb fyddai sefydlu’r Brifwyl yn Y Bala yn barhaol i ddyfodol un o’r ardaloedd sy’n asgwrn cefn i’r iaith Gymraeg?