Dylan Iorwerth sy’n gofyn pam fod angen cadw un hen ddyn yn y carchar…

I unrhyw un dros tua 40 oed, mae enw Ronnie Biggs yn taro tant. Ond, efallai, erbyn hyn nad yden ni’n cofio’n union pam. Mae’r enw’n fwy na’r dyn.

Erbyn hyn, mae’r cyn-leidr yn ôl yn y penawdau unwaith eto, yn ddifrifol wael, a’i fab yn crefu am iddo gael ei ryddhau o’r carchar i ddiweddu’i ddyddiau. Yr enw sy’n ei gadw i mewn.

Mae yna droseddwyr llawer gwaith wedi cael eu gollwng yn rhydd – mae yna lofruddion hyd yn oed sydd wedi treulio llai yng ngharchar. Mi ddylai Ronnie Biggs gael ei ryddhau erbyn hyn.

Dau beth oedd wedi ei wneud yn enwog – natur y drosedd a’r ffaith ei fod wedi dianc. Lladrad y Trên oedd y fwya’ o’i bath yn ei dydd ac roedd un o weithwyr y rheilffordd wedi cael ei anafu; trwy ddianc i Awstralia ac wedyn Brasil a byw bywyd digon lliwgar, roedd Biggs yn codi dau fys ar awdurdod yng ngwledydd Prydain.

Mae’n ymddangos mai dicter at hynny sy’n dal i lywio agwedd y Llywodraeth a’r Gweinidog Cyfiawnder, Jack Straw. Allan nhw ddim godde’ cael rhywun yn gwneud hwyl am eu pen.

Roedd Biggs yn ddyn drwg ond mae bellach bron â bod yn 80 oed ac yn ddyn gwael iawn hefyd. Rhwng popeth, mae wedi bod tua naw mlynedd yn y carchar. A hithau 46 o flynyddoedd ers y drosedd wreiddiol, mae wedi talu’r pris.

Ei drosedd bellach yn ôl Jack Straw yw gwrthod ymddiheuro. Felly, nid stori arwynebol am un dihiryn ydi hon, ond stori sy’n mynd at galon y system gyfiawnder.

Tri phwynt sydd i garchar – cosbi, argyhoeddi rhywun i beidio â throseddu eto a chadw cymdeithas yn saff. Yn achos Biggs bellach, mae’r cyfan yn amherthnasol.

Beth, felly, ydi pwynt Jack Straw? Sgorio pwynt gwleidyddol?