Yn ystod wythnos cyhoeddi’r Strategaeth Iaith, sydd i fod i arwain at adfer y Gymraeg, fe ddylen ni ystyried beth fydd effaith strategaeth codi tai Llywodraeth Cymru ar ein cymunedau a’n hiaith…

Be’ ydy gêm Llywodraeth Cymru? Trwy orfodi cynghorau sir y gogledd i ganiatau codi miloedd yn fwy o dai nag y byddan nhw’n ddymuno, yr ofn yw bwydo’r mewnlifiad a phrysuor tranc yr iaith.

Roedd Cyngor Wrecsam eisiau caniatau codi hyd at 8,055 o dai yno dros y deng mlynedd nesaf – gormod o lawer yn ôl cenedlaetholwyr lleol sy’n poeni am yr effaith ar hunaniaeth yr ardal, heb son am bwysau ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol, addysg ac ysbytai.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen anelu at godi 11,700 o dai yno – ddim yn bell o 4,000 yn fwy o dai ychwanegol dros gyfnod o ddeng mlynedd yn unig.

Mae 24,000 o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb sy’ wedi’i hanfon i’r Cynulliad, yn nodi eu pryderon ac nad ydyn nhw am i ardal Wrecsam drosi yn West Cheshire – ardal i gymudwyr fyw ar ôl diwrnod o waith dros Glawdd Offa.

Tai fforddiadwy i bobol leol sy’ angen, medden nhw, nid tai crand sy’n creu elw i gwmnïau mawr tra’n prisio pobol leol o’r farchnad.

Yng Nghonwy wedyn mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am godi’r nifer o dai y dylid eu codi i 6,800, gyda’r Ceidwadwyr ar y cyngor sir – pobol sydd o blaid byd busnes a chwmnïau mawr fel arfer – yn protestio fod y nifer yn ormod.

Ac yn Sir Ddinbych – lle mae’r cyngor sir ei hun eisiau treblu maint Bodelwyddan, pentref sy’n nythu’n handi ar ysgwydd yr A55 ac yn ddelfrydol i gymudwyr o Loegr – mae Llywodraeth Cymru eisiau caniatau codi 8,400, sef 900 yn fwy na’r cyngor.

Mae’r angen am fwy o dai yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod y boblogaeth yn mynd i gynyddu.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd poblogaeth Sir Ddinbych yn cynyddu 600 bob blwyddyn, a’r llynedd mewn e-bost mi wnaeth un o’u swyddogion gyfadde’ wrtha i bod yr amcan yna’n seiliedig ar fewnfudo yn y gorffennol.

Roedd ymateb yr Aelod Cynulliad Llŷr Huws Gruffydd ar y pryd yn crisialu dagrau’r sefyllfa: “Os ydych chi’n adeiladu tai ar gyfer y mewnlifiad yna mae’n ei gwneud yn haws iddo barhau! Mae’n sefyllfa ryfeddol lle mae Llywodraeth Cymru yn gorfodi cynghorau i gynllunio ar gyfer tranc cymunedau lleol.”

Mae tref glân y môr Y Rhyl yn Sir Ddinbych eisoes wedi cael ei siâr o fewnfudwyr anghenus, a prin y gall gwlad mor dlawd a Chymru ddelio gyda phroblemau ei thrigolion ei hun, heb son am wahodd mwy.

Ond dyma weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gogledd.

Boncyrs.