Dylan Iorwerth sy’n gofyn pam fod angen cymaint o wyliau ar ein gwleidyddion…

Ynghanol holl ffws am lwfansau, mae pawb wedi anghofio un peth. Gwyliau.

Dyna’r un peth arall sy’n gosod Aelodau Seneddol (ac Aelodau Cynulliad) ar wahân i bawb arall sy’n gweithio. Maen nhw’n cael mwy o wyliau hyd yn oed nag athrawon ysgol

Fydd Aelodau’r Cynulliad ddim yn ôl rwan tan Fedi 18 ac fe fydd Aelodau Seneddol yn gorffen ddydd Mawrth tan Hydref 12.

Wrth gwrs, fe fydd y rhai gorau yn gweithio yn eu hetholaethau ac yn achub ar y cyfle i wneud gwaith cefndir a pharatoi ond does dim rheidrwydd arnyn nhw – a dyna’r gwendid.

Yn union fel yr oedd rhai Aelodau Seneddol yn anrhydeddus a chywir wrth hawlio costau, mae yna lawer o aelodau o’r ddwy senedd fydd yn gydwybodol. Ond mi fydd yna rai yn sgeifio.

Mi fyddai’n hawdd iawn i aelodau rhanbarth y Cynulliad ddiflannu er enghraifft, gan nad oes ganddyn nhw ofalon etholaeth ac mae sawl Aelod Seneddol mewn sedd saff wedi arfer hamddena am y rhan fwya’ o’r gwyliau.

Mi wyddon ni bellach na fedrwn ni ymddiried yn rhai ohonyn nhw i weithredu’n gywir. Mae’n amser felly iddyn nhw gael cytundebau gwaith sy’n eu rhwymo i gyfnod gwaith rhywbeth tebyg i bawb arall.