Fe fydd profiadau plant saith i 14 oed mewn pum gwlad o fyw trwy’r pandemig coronafeirws yn destun ymchwil.

Mae’r ymchwil gan Dr Justin Spinney a Dr Matluba Khan o Brifysgol Caerdydd a Mintazar Monsur o Brifysgol Technoleg Tecsas, yn gobeithio darganfod pa weithgareddau mae plant wedi bod yn eu gwneud a sut maen nhw wedi addasu i’r gwarchae.

Mae plant rhwng saith a 14 oed yn cael eu gwahodd i gwblhau dyddiadur gweithgareddau dros gyfnod o saith diwrnod, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â lle maen nhw’n byw, a manylion am eu teuluoedd.

Bydd y data’n ffurfio rhan o ymchwil ryngwladol sy’n cynnwys pedair gwlad arall – yr Unol Daleithiau, Taiwan, Singapôr a Bangladesh.

“Mae bywyd plant wedi newid lot ers i warchae’r coronafeirws ddod i rym,” meddai Dr Justin Spinney.

“Tra maen nhw i ffwrdd o’r ysgol, eu ffrindiau a’u teulu ehangach, gallai’r mathau o weithgareddau mae plant yn gallu eu gwneud fod yn effeithio eu datblygiad a’u lles.

“Mae anghydraddoldeb cymdeithasol, mynediad i dechnoleg a gofod tu allan i gyd yn debygol o gael effaith.”

Deall arferion plant

“Drwy gasglu’r data hwn rydym yn gobeithio deall pa fynediad sydd gan blant i ofod tu allan a thechnoleg, sut mae eu gweithgareddau a pherthnasau cymdeithasol wedi newid yn ystod y gwarchae, pa reolaeth sydd ganddyn nhw dros eu gweithgareddau, a sut mae hyn yn newid o wlad i wlad,” meddai Matluba Khan.

Bydd yr ymchwil yn cael ei defnyddio i ffurfio polisïau cynllunio trefol, i sicrhau bod gan blant fynediad i’r adnoddau cywir i gynyddu eu hydwythedd mewn bywyd ac wrth wynebu unrhyw gyfyngiadau cymdeithasol yn y dyfodol.

Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y byddan nhw wedi derbyn y data gan yr holl wledydd erbyn mis Gorffennaf.