Bu farw’r cartwnydd Cen Williams ddechrau’r wythnos hon yn 74 oed.

Fe fu’n darparu cartŵn wythnosol i gylchgrawn Golwg tan yn ddiweddar iawn, pan gafodd ei daro’n wael â’r coronafeirws.

Mae ei gartŵn olaf, a gafodd ei gyhoeddi ar Ebrill 23, yn deyrnged i’w ffrind Dafydd Huws, awdur Dyddiadur Dyn Dwad.

Cafodd ei fagu ym mhentref Gwalchmai ym Môn cyn troi am Gaerdydd ar gyfer ei ddyddiau coleg.

Roedd yn bêl-droediwr dawnus ac yn un o’r criw wnaeth sefydlu Clwb Pêl-droed Cymry Caerdydd yn 1969.

Bu Cen Williams yn gwerthu ei gartŵns ar gais, gan roi’r arian at elusen fu’n helpu dioddefwyr myasthenia gravis, cyflwr sy’n effeithio ar y cyhyrau a chyflwr y bu ei chwaer yn dioddef ohono.

Fe wnaeth greu’r cloriau eiconig ar gyfer y gyfres o albyms Cwm Rhyd y Rhosyn wnaeth Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones eu recordio.

Roedd pedair albym yn cynnwys clasuron fel ‘Dau gi bach’ ac ‘Mi welais Jac-y-do’, ac o’r recordiau fe ddaeth llyfrau lliwio a phosteri – pob un yn cynnwys darluniau Cen Williams.

Teyrngedau

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae mudiad annibyniaeth Yes Cymru.

Un arall sydd wedi talu teyrnged bersonol iddo yw ei ffrind Wynford Ellis Owen.

“Roedd o yno ar y dechrau’n deg, yn dweud wrthan ni, yn griw o ddynion a merched, pa ddarn oedd yn mynd i ble a sut i wneud synnwyr o’r cyfarwyddiadau,” meddai.

“Fe wnaeth o hyd yn oed roi ei soffa ei hun a dwy gadair mae pobol ddi-ri wedi gorffwys arnyn nhw wrth gael eu derbyn a’u hasesu.

“Fe wnaeth o awgrymu ein bod ni’n sefydlu Cyfeillion Ystafell Fyw Caerdydd ac roedd o’n drysorydd arni ac yn ffynhonnell gyson o syniadau ac ysbrydoliaeth.

“Fe wnaeth o ddylunio posteri di-ri i ni a thocynnau ar gyfer amryw ddigwyddiadau dros y blynyddoedd.

“Roedd ei steil unigryw o ddarlunio cartwnau wedi llenwi ein Llawlyfr Hyfforddiant Gwellhad, fel y gwnaeth lenwi Golwg, y cylchgrawn Cymraeg wythnosol poblogaidd, gan egluro rhai o’n dulliau adferiad yn well o lawer nag y gallai geiriau.

“Roedd o’n dynnwr coes eithriadol ac roedd ganddo fo synnwyr digrifwch direidus dros ben.

“Byddai’n cwyno’n arw gyda phob tasg y byddai’n rhaid iddo ei gwneud nad oedd ganddo fo’r amser na’r adnoddau i’w gwneud hi, ond byddai’n ei chyflawni hi bob tro i’r safon uchaf posib a chyda gwên swil ar ei wyneb.”

Doniau a diddordebau

“Roedd o’n athro par excellence gan ddysgu plant a phobol ifanc ledled Cymru wir gwerth celf a llawenydd creadigrwydd,” meddai wedyn.

“Roedd yn caru chwarae a gwylio pêl-droed yn fwy na dim byd arall, a byddai’n dadlau a thrafod rhyfeddodau’r gêm hyfryd yn ddi-baid.

“Fe wnaethon ni chwarae efo’n gilydd i dîm cyntaf Clwb Cymry Cymraeg Caerdydd yn 1970 – byddai’n brolio mai fi, fel golwr y tîm, oedd yr unig chwaraewr ar y cae i fethu sgorio gôl yn ystod un gêm gofiadwy.

“Fo oedd fy ffrind anwylaf, ac fe wnaeth fy nghefnogi drwy’r cyfan.

“Roedd o’n caru’r Ystafell Fyw a fo oedd ei chefnogwr pennaf, ac roedd yn caru pawb ddaeth drwy ei drysau gan amgyffred gwellhad.”

Ei ddyddiau olaf

Dywed fod Cen Williams wedi bod yn ddifrifol wael yn yr ysbyty am bythefnos.

“Rwy’n estyn ar eich rhan fy nghydymdeimlad dwysaf i’w bartner Carol ac i’w chwaer sy’n byw yn Aberystwyth a’i frawd ym Môn, ac nad oedd wedi gallu bod efo fo ar y diwedd oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth.

“Rwy’n diolch i Dduw am fywyd Cen.

“Fe wnaeth o ddarganfod cyfrinach hapusrwydd, sef bod yn rhoddwr yn hytrach nag yn un oedd yn derbyn o hyd.

“Ond roedd ei fath o o roi yn arbennig iawn – y math o roi oedd yn amhrisiadwy – ei roi ei hun er lles rhywun arall.

“Ac fe wnaeth o hynny ar yr amod na châi neb wybod am y peth.

“Wel, sori Cen, ond bu’n rhaid i mi dorri fy addewid i ti er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd am y cariad a’r trugaredd anhygoel a’r daioni roeddet ti’n eu hymgorffori, a lifodd mor rwydd ohonot ti.

“Bu dy adnabod yn un o freintiau mwya ’mywyd i. Gorffwys mewn hedd, fy ffrind anwylaf.”