Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi dymuno “Eid Mubarak” i Fwslimiaid Cymru.

Eid-al-Fitr yw’r diwedd swyddogol ar yr ymprydio sy’n digwydd yn ystod mis sanctaidd Ramadan.

Mae’r cyfnod wedi bod yn un anodd a gwahanol iawn i’r arfer yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws eleni, ond mae’r prif weinidog wedi canmol “gwytnwch a chreadigrwydd” y gymuned Foslemaidd yng Nghymru.

Daw ei neges mewn fideo ar ei dudalen Twitter.

“Hoffwn ddanfon fy nymuniadau gorau at bob Mwslim yng Nghymru sy’n nodi diwedd y mis sanctaidd Ramadan,” meddai.

“Mae cryfder a chreadigrwydd ein cymunedau Mwslimaidd wedi fy llenwi â gobaith.

“Nid yw’r gwerthoedd allweddol o elusen a thosturi yn ystod Ramadan wedi methu yn ystod yr amser anodd hwn.”

‘Profiad gwahanol iawn’

“Mae llawer ohonoch wedi canolbwyntio ar helpu y rhain sydd yn llai ffodus, a gwn fod llawer ohonoch wedi defnyddio technoleg newydd i uno cymdogion, cymunedau a theuluoedd sydd wedi’u gwahanu gan y coronafeirws,” meddai.

“Rwy’n gwybod fod Ramadan wedi bod yn brofiad gwahanol iawn eleni, i’r blynyddoedd diwethaf.

“Yn ystod Eid eleni, gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi yn meddwl am y cyfraniad enfawr mae cymunedau Mwslimaidd Cymru wedi ei wneud i’n cymdeithas bob dydd.

“Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffaf anfon fy nymuniadau gorau at bawb sy’n dathlu.

“Eid Mubarak.”