Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi datganiad yn amlinellu’r hyn mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gefnogi myfyrwyr a phrifysgolion wrth ddelio â’r coronafeirws.

Dywed ei bod hi’n awyddus hefyd i weithio gyda holl lywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Trysorlys er mwyn sicrhau setliad i’r dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn hynod ddiolchgar i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sydd wedi bod yn delio â sialensiau Covid-19 ac yn gweithio i liniaru’r effaith ar fyfyrwyr a staff,” meddai Kirsty Williams.

“Fel sydd wedi ei gydnabod gan y sector ledled y DU, mae graddfa’r gefnogaeth ariannol sydd ei hangen i gynnal sefydlogrwydd yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael o fewn cyllidebau datganoledig y llywodraeth, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda holl lywodraethau’r DU a Thrysorlys Ei Mawrhydi ar setliad yn y dyfodol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio ar sail pedair gwlad fel rhan o dasglu ymchwil y brifysgol.”

Ymateb Prifysgolion Cymru

Mae Prifysgol Cymru wedi ymateb, gyda Chyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson yn dweud: “Mae prifysgolion yn chwarae rôl bwysig i bobl a lleoedd ar draws Cymru, gan ddod a budd economaidd a chymdeithasol i’r wlad i gyd.

“Bydd ein prifysgolion yn allweddol wrth i’n gwlad adfer o’r argyfwng hwn.

“Os nad yw’r sector yn cael ei warchod yng Nghymru bydd yna effaith ar ein cymunedau, busnesau yn ogystal â sylfaen yr economi.

“Mae angen brys am gymorth ariannol i fynd i’r afael â’r effaith ddifrifol y bydd COVID-19 yn ei gael ar addysg uwch. Byddwn yn ceisio eglurder ynghylch yr hyn y mae cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU yn ei olygu i brifysgolion yng Nghymru. Fodd bynnag, rhaid i’r cyhoeddiad hwn fod yn gam cyntaf. Dylai’r DU a llywodraethau datganoledig weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau y mae prifysgolion yn eu hwynebu, ac anghenion y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu, ledled y DU. ”

Camau newydd

Mae’r Gweinidog Addysg wedi amlinellu’r camau newydd a diweddar mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd, sy’n cynnwys.

  • Rheoli recriwtio
  • Cynnal sefydlogrwydd i fyfyrwyr
  • Cefnogaeth i fyfyrwyr
  • Gweithgaredd rhyngwladol
  • Darparwyr canliadwyedd cyllidol
  • Ymchwil ac arloesi