Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi herio Llywodraeth Cymru wrth fynnu cael gwybod: ble mae’r 700 a mwy o beiriannau anadlu sydd ar goll?

Mis ar ôl i Lywodraeth Cymru archebu dros 1000 o beiriannau anadlu, mae Suzy Davies, yr Aelod Seneddol Ceidwadol i Orllewin De Cymru yn gofyn pam mai dim ond 171 sydd wedi cael eu dosbarthu i Fyrddau Iechyd yng Nghymru hyd yma?

Ar ddechrau Ebrill, adroddwyd fod 1,035 o beiriannau anadlu wedi eu harchebu er mwyn eu hychwanegu at y 415 o beiriannau oedd yn ysbytai Cymru yn barod.

 Anghredadwy

“Diolch byth, mae’n ymddangos fod yr achosion o Covid-19 yn lefelu” meddai Suzy Davies AC.

“A diolch i waith caled ac ymroddiad ein gweithwyr iechyd dewr mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi llwyddo i ddygymod. Ond, mae’n rhaid i mi ofyn ble mae’r 700 o beiriannau anadlu coll?

“Mae Llywodraeth Cymru yn ffodus nad oes angen wedi bod am y peiriannau hyd yn hyn, ond mi allai fod wedi bod yn sefyllfa gwbl wahanol.

“Mae hefyd yn frawychus fod offer hanfodol yn cael ei anghofio gan Lywodraeth Cymru, ac yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru dydyn nhw ddim yn cadw cofnod o’r amseroedd na dyraniad y peiriannau mae’n nhw’n aros i’w derbyn.

“Mae’n anghredadwy ac yn dangos pa mor ddi-glem ydyn nhw fod hyn wedi gallu digwydd o gwbl.”

Niferoedd wedi eu diwygio

Mewn datganiad meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething;

“O blith y peiriannau anadlu mewnwthiol yr oeddem yn disgwyl eu derbyn drwy drefniadau ym Mhrydain adeg y datganiad ar Ebrill 5, a ddiwygiwyd ar ôl hynny i 461, rydym wedi derbyn 46 ohonynt.

“O blith y 270 o beiriannau deuddiben (mewnwthiol ac anfewnwthiol) sydd wedi’u derbyn gan Gydwasanaethau GIG Cymru, rydym wedi derbyn 130 ohonynt hyd yma ac maent oll wedi’u dosbarthu i’r byrddau iechyd.

“O blith y 380 o beiriannau anfewnwthiol yr oeddem wedi disgwyl eu derbyn drwy drefniadau yn y DU adeg y datganiad, a ddiwygiwyd ar ôl hynny i 369, rydym wedi derbyn 177 ohonynt.

Dim prinder

Yn ôl Vaughan Gething, mae’r broses o gyflenwi’r peiriannau anadlu sydd wedi’u derbyn drwy Gydwasanaethau Gwasanaeth Iechyd Cymru a threfniadau ym Mhrydain wedi bod yn broses raddol dros gyfnod o 13 o wythnosau, ar sail yr amcanestyniad gwreiddiol y byddai nifer yr achosion ar ei uchaf ym mis Mehefin/Gorffennaf.

“Tra bo achosion o COVID-19 yng Nghymru” meddai, “nid oes prinder wedi bod o safbwynt peiriannau anadlu o fewn y GIG yng Nghymru.”