Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi treulio ail noson mewn uned gofal dwys. Roedd ei gyflwr yn “sefydlog” nos Fawrth (Ebrill 7) wrth iddo gael ei “fonitro’n agos,” meddai 10 Stryd Downing.

Yn y cyfamser, dywed prif ymgynghorydd gwyddonol y Llywodraeth, Syr Patrick Vallance fod y frwydr yn erbyn coronaferiws “o bosib yn symud i’r cyfeiriad iawn.”

Mewn cynhadledd i’r wasg dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, sydd wedi ysgwyddo rhai o gyfrifoldebau Mr Johnson, ei fod yn “hyderus” y bydd y Prif Weinidog yn dychwelyd yn holliach ar ôl i’w symptomau waethygu.

“Dwi’n hyderus y bydd yn gwella oherwydd os oes yna un peth dwi’n ei wybod am y Prif Weinidog, mae o’n frwydrwr a bydd o’n ôl wrth y llyw yn ein harwain drwy’r argyfwng mewn dim o dro,” meddai.

Erfyn ar Donald Trump am beiriannau anadlu

Yn hwyrach nos Fawrth, honnodd yr Arlywydd Donald Trump fod y Deyrnas Unedig wedi galw ar yr Unol Daleithiau gyda chais brys am 200 o beiriannau anadlu, wrth i weinidogion sgrialu i gynyddu gallu’r Gwasanaeth Iechyd i drin y cleifion salaf.

“Rydym yn mynd i sortio hyn allan, mae’n rhaid i ni sortio hyn allan,” meddai Donald Trump.

“Maen nhw wedi bod yn bartneriaid gwych, roedden nhw eisiau 200, mae eu hangen nhw arnynt yn ddybryd.”

Dysgu o esiampl yr Almaen

Mae’r Deyrnas Unedig angen dysgu gan esiampl yr Almaen lle mae niferoedd y marwolaethau yn cynyddu’n arafach, meddai prif swyddog meddygol Lloegr, Yr Athro Chris Whitty.

“Rydym i gyd yn gwybod fod yr Almaen ar y blaen yn nhermau ei gallu i gynnal profion am y feirws ac mae yna lot yn gallwn ei ddysgu ganddynt,” meddai.

“Rydym wedi bod yn ceisio dysgu’r gwersi o hynny.”