Heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 1), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r nifer uchaf o farwolaethau ac achosion newydd o’r coronafeirws mewn cyfnod o 24 awr yng Nghymru.

Cofnodwyd 29 o farwolaethau, ac mae 274 o achosion newydd o brofion positif am Coronafeirws.

Bellach mae 98 person wedi marw o’r firws yng Nghymru a chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd yw 1,837 – er bod gwir nifer yr achosion yn debygol o fod dipyn yn uwch.

Daw hyn ar ôl i nifer y marwolaethau ac achosion newydd o brofion positif am y coronafeirws ostwng yng Nghymru ddoe (Mawrth 31).

Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i’r Coronafeirws ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Y camau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu cymryd wrth ymladd Coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau.

“Rydyn ni’n gwybod y gall aros gartref fod yn anodd, ac rydyn ni am ddiolch i bawb ledled Cymru am chwarae eu rhan wrth helpu i arafu lledaeniad y feirws.”

Mae cyfanswm yr achosion ymhob bwrdd iechyd fel a ganlyn:

  • 681 ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • 91 yn Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
  • 460 ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro
  • 210 ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf
  • 107 ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda
  • 29 ym Mwrdd Iechyd Powys
  • 213 ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe

Mae 14 o achosion gan ddinasyddion sydd y tu allan i Gymru a dyw lleoliad 32 o achosion ddim wedi’i gadarnhau.