Gall perchnogion carafanau Haven ddefnyddio safleoedd y cwmni yng Nghymru, er eu bod nhw ynghau i bobol ar eu gwyliau.

Roedd adroddiadau ddoe (dydd Gwener, Mawrth 20) bod holl barciau’r cwmni ynghau tan Ebrill 16 – cyfnod sy’n cwmpasu penwythnos y Pasg – yn sgil y coronafeirws.

Er iddyn nhw ddweud mewn datganiad bod eu parciau “ar gau i bobol ar eu gwyliau”, dydy hyn ddim yn berthnasol i berchnogion carafanau.

Mae gan y cwmni saith parc yng Nghymru – Ceinewydd yng Ngheredigion; dau yn Ninbych-y-Pysgod ac un yn Lydstep yn Sir Benfro; a dau ym Mhen Llŷn ac un ym Mhrestatyn yn y gogledd.

Quay West yng Ngheinewydd

Mae perchennog carafan yng Ngheinewydd yn dweud wrth golwg360 ei fod wedi derbyn galwad ffôn gan Quay West yn rhoi gwybod fod y parc “yn dal ar agor i berchnogion ond nid i bobol sy’n rhentu carafan yn uniongyrchol gan y cwmni”.

Does dim mynediad i gyfleusterau hamdden na’r bwyty yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’r siop a’r golchdy ar agor o hyd.

Ond mae’n dweud bod dryswch ynghylch hawl perchnogion i roi carafanau ar rent yn breifat yn ystod y cyfnod hwn.

Tra bod un perchennog wedi cael gwybod fore heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 21) fod gan berchnogion yr hawl i wneud hynny, mae golwg360 wedi gweld e-bost gan Haven at berchennog arall ddydd Iau (Mawrth 19) yn dweud bod angen i bobol sy’n rhentu carafan gan berchnogion adael y safle.

E-bost

“Rydym wedi gwneud y penderfyniad y byddwn ni’n aros ar agor i chi, y perchnogion, i ddod i dreulio amser yn eich cartref gwyliau, ond rydym hefyd wedi gwneud y penderfyniad eithriadol o anodd i beidio â darparu gwyliau yn y cyfnod rhwng dydd Gwener 20 Mawrth tan 16 Ebrill,” meddai’r e-bost.

“Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i gadw ein harchfarchnadoedd ar agor, gan eich galluogi chi i brynu bwyd a diod, i’w bwyta a’u hyfed yn eich cartref gwyliau.

“Bydd eich timau parc wrth law i helpu.

“Rydym yn sylweddoli bod nifer o berchnogion yn rhentu allan eu cartrefi gwyliau’n breifat. Plis sicrhewch fod y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i’ch gwesteion sy’n aros yn eich cartref gwyliau yn ystod y cyfnod hwn.

“Os oes gyda chi westeion yn eich cartref gwyliau ar hyn o bryd, plis rhowch wybod iddyn nhw y bydd angen iddyn nhw adael y parc yfory, dydd Gwener 20 Mawrth.

“Hefyd, plis rhowch wybod i’ch tîm perchnogion ar y parc os ydych chi’n rhentu allan eich cartref gwyliau’n breifat fel y gallwn ni eich cefnogi chi ymhellach.”

Ffioedd

Ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn glir sut fydd y penderfyniad i addasu’r drefn arferol i berchnogion yn cael effaith ar y ffioedd maen nhw’n eu talu am gael cadw eu carafan ar y safle.

“Rydym yn deall efallai y bydd gennych chi sawl cwestiwn, yn enwedig am effaith y sefyllfa hon ar eich ffioedd safle, a gallwn eich sicrhau ein bod ni’n gweithio allan beth mae hyn yn ei olygu i chi,” meddai’r e-bost wedyn.

“Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn ni.”

Pryderon

Mae’r perchnogion fu’n siarad â golwg360 wedi mynegi pryder fod y penderfyniad i gadw’r parc ar agor yng Ngheinewydd yn un ariannol, ac nad yw’n ystyried trigolion lleol.

“Dw i’n cael y teimlad bod cwmni Haven yn ofni cau’r parc i berchnogion gan ei bod yn debygol y byddai’n rhaid iddyn nhw ad-dalu ffioedd safle, sy’n cyfateb i filoedd o bunnoedd yr un.

“Pe baen nhw’n dweud wrth berchnogion am ganslo archebion preifat, a fyddai’n rhaid iddyn nhw gynnig iawndal?

“Mae perygl amlwg y gallai pobol o drefi a dinasoedd yng Nghymru a’r tu allan gludo’r feirws i orllewin Cymru wledig.

“Fe fydd unrhyw un sy’n defnyddio’r parc yn ymwybodol o’r nifer sylweddol o ymwelwyr o ganolbarth Lloegr, er enghraifft, a’r ardal honno’n profi nifer sylweddol o achosion o Covid-19.

“Ar ben hynny, gallai nifer sylweddol o berchnogion yn mynd yno roi siopau lleol dan bwysau sylweddol.

“Does gan ardal Ceinewydd ddim archfarchnadoedd na siopau mawr ond yn hytrach, ambell siop leol fach.

“Mae’n siŵr y bydd yn ddigon anodd sicrhau digon o nwyddau hanfodol i bobol leol.

“Ond yn bwysicaf oll, efallai, fe fydd pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd yr ardal – beth fyddai’n digwydd pe bai pobol sy’n teithio yno wedi’u heintio eisoes ac yn gorfod cael triniaeth mewn ysbyty?

“A beth fyddai’n digwydd pe bai pobol o’r tu allan yn heintio trigolion lleol?

“Dydy hi ddim yn werth y risg, ac mae methu â gwneud defnydd o’n carafanau’n bris bach i’w dalu am gadw pobol eraill yn ddiogel.”

Ymateb Quay West

Dywedodd llefarydd ar ran Quay West wrth golwg360 fod y parc yn dal ar agor i berchnogion, ond nid i bobol eraill.

Dywedodd yn ogystal fod nifer o gyfleusterau’r parc ynghau, a bod perchnogion carafanau’n cael eu “cynghori’n gryf” i beidio â rhentu i bobol allanol, ond nad oes ganddyn nhw hawl i orchymyn nad yw hynny’n digwydd.

Doedd dim ateb wrth ffonio cwmni Haven, sy’n dweud nad oes modd derbyn galwadau ffôn ar hyn o bryd.