Mae amgueddfa Storiel ym Mangor yn apelio am hen eitemau gafodd eu defnyddio mewn protestiadau.

Maen nhw yn chwilio am eitemau sydd wedi cael eu creu neu eu defnyddio gan bobl fu’n protestio yn ystod y ganrif ddiwethaf, neu eitemau sy’n berthnasol i ogledd Cymru.

Gall yr eitemau amrywio o faneri, posteri a bathodynnau i eitemau pob dydd sy’n adrodd hanes personol protest.

Y gobaith yw creu arddangosfa gymunedol yn Storiel fydd yn agor ddiwedd mis Mawrth.

Mae disgwyl i’r eitemau sydd yn cael eu rhoi yn dod yn rhan o gasgliad parhaol Storiel.

Gair o brofiad

Holodd golwg360 Ffred Ffransis, aelod o Gymdeithas yr Iaith sy’n protestio ers y 1960au.

“Mae cofio protestio yn bwysig iawn i bob cenedl,” meddai Ffred Ffransis.

“Dw i erioed wedi bod yn un am gasglu artifacts ond mi alla i ddychmygu bod nhw’n bethau diddorol i bobl oedd ddim yng nghanol protestiadau ar y pryd.

“Pan ti’n sôn am brotestio, ti’n sôn am snapshots o fudiad cenedlaethol sydd wedi bodoli drwy’r oesoedd ond sydd wedi amlygu ei hun mewn ffurf wahanol ar adegau gwahanol.”