Mae Storm Ciara yn achosi trafferthion i deithwyr yn y gogledd, wrth i’r heddlu gyhoeddi sawl rhybudd.

Mae’r A5 ynghau rhwng Llyn Ogwen a Nant Ffrancon ger Bethesda yn dilyn tirlithriad, ac mae’r heddlu’n cynghori pobol i gadw draw o’r ardal.

Mae’r A470 ynghau i’r ddau gyfeiriad yn Llanrwst, ac un lôn yr A55 ynghau ger cyffordd 25 Bodelwyddan i gyfeiriad y gorllewin.
Mae ffordd A496 rhwng y Bermo a Dolgellau ynghau yn sgil y tywydd, ynghyd â’r A5104 yn ardal Treuddyn ger yr Wyddgrug ar ôl i goeden gwympo, ac mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i beidio â theithio yn y fan honno oni bai bod gwir rhaid.
Ac mae’r heddlu’n gofyn i yrwyr lorïau wrando ar gyngor diogelwch ar bont Britannia oherwydd gwyntoedd cryfion, gan ddweud y gallai anwybyddu’r cyngor fod yn “gatastroffig”.
Mae’r storm hefyd yn effeithio ar deithwyr ar y fferi i mewn i Gaergybi.