Mae cyn-chwaraewr canol cael Cymru Carl Robinson wedi cael ei benodi fel prif hyfforddwr Newcastle Jets yng nghynghrair A-League Awstralia.

Mae o wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner sy’n rhedeg tan ddiwedd tymor 2022-23.

“Rwyf wrth fy modd mod i’n cymryd drosodd gyda’r Jets,” meddai Carl Robinson ar wefan swyddogol y clwb.

“Roedd yn gyfle rhu dda i’w wrthod a dw i’n edrych ymlaen at gael fy staff hyfforddi yn barod a dechrau’r gwaith caled.”

Enillodd y cyn chwaraewr Wolves a Sunderland 52 cap i Gymru mewn gyrfa chwarae 16 mlynedd, cyn dechrau hyfforddi.

Cafodd ei ystyried ar gyfer swydd Cymru ddwy flynedd yn ôl, cyn i Ryan Giggs gael ei benodi.