Rhodri ab Owen
Yr wythnos ddiwethaf cefais y fraint o fynychu lansiad llyfr ‘Bron yn Berffaith’ y gyn-gyflwynwraig a’r actores Heulwen Haf yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd. Yn y llyfr ceir portread diflewyn ar dafod o’i bywyd, o’r blynyddoedd cynnar yng Nghorwen i’w chyfnod fel ffigwr adnabyddus ar deledu Cymraeg. Ond yn sicr, canolbwynt yr hunangofiant teimladwy hwn yw ei brwydr yn erbyn canser y fron, canser hynod ymosodol oedd ganddi a chafodd diagnosis yn 2008.

Dros hanner tymor cyntaf y Cynulliad, wedi seibiant yr haf, un o’r pynciau llosg mwyaf, os nad y mwyaf ar lawr y Siambr bu gwasanaethau canser yng Nghymru. Mewn pythefnos ar ddechrau Hydref cyflwynwyd tair dadl gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pwnc.

Bu’r ddwy blaid yn uchel eu cloch yn ystod y dadleuon hyn ac mewn sesiynau cwestiynu’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Iechyd, dros alw am sefydlu cronfa cyllido canser yng Nghymru, fel sy’n bodoli yn Lloegr eisoes.

Cyffuriau newydd

Bydd cronfa o’r fath yn cyllido cyffuriau newydd i’r farchnad, yn aml cyffuriau a fyddai’n ymdrin â chanser prin.  Soniodd Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar AC, bod y Sefydliad Canser Prin y Deyrnas Unedig yn nodi bod 24 o gyffuriau canser ar gael i gleifion yn Lloegr, nad oedd ar gael ar gyfer cleifion yng Nghymru, gan nad oes gennym gronfa tebyg yr ochr hon o glawdd Offa.

Bu arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, yn sôn am gleifion o’i hetholaeth hi ar y ffin yn cael eu trin mewn ysbytai yn Lloegr ond yn cael ei amddifadu o gyffuriau canser oedd ar gael i gleifion yn yr un ystafell aros a hwy, am eu bod yn Gymry.

Dadl Llywodraeth Cymru oedd ein bod ni yma yn gwario £5 yn fwy y pen ar gyffuriau canser nag ydyw Llywodraeth y DU ac felly nid oeddent yn gweld yr angen am sefydlu cronfa cyllido fel a geir yn Lloegr.

Dadlau’n parhau

Does dim amheuaeth y bydd y dadlau yn parhau’r wythnos nesaf pan ddaw’r aelodau yn ôl wedi eu gwyliau hanner tymor. Mae’n bwnc sy’n codi llu o emosiynau gan fod pob un ohonom wedi ein cyffwrdd â chanser mewn un modd neu’i gilydd yn ystod ein hoes.

Cyhoeddodd yr elusen ganser Macmillan yn ddiweddar bod 120,000 o bobl yn byw gyda chanser neu wedi goroesi’r afiechyd yng Nghymru heddiw. Serch hynny, erbyn 2030 amcangyfrifir y bydd y ffigwr hwn wedi codi i dros ddwbl y ffigwr gwreiddiol, tua 250,000. Mae hyn o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio a gwell triniaeth a rheolaeth o’r afiechyd.

Wrth glywed ffigurau fel hyn a gwrando ar ddadleuon o blaid ac yn erbyn cronfa cyllido canser yng Nghymru, mae’n hawdd anghofio bod pob un o’r ffigurau a’r achosion hyn yn cynrychioli pobl ar draws Cymru benbaladr. Y mae hunangofiant Heulwen Haf yn cynnig stori un o’r 120,000 ac wedi ei ysgrifennu’n deimladwy ac yn bersonol iawn. Os byddai’r llyfr yn codi ymwybyddiaeth un fenyw yn unig o’r clefyd, yna byddai’r hunangofiant yn un llwyddiannus a gwaith Heulwen i’w chanmol.