Mae tîm pêl-droed Wrecsam allan o safleoedd y gwymp yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl buddugoliaeth o 2-0 yn Chorley.

Gêm ddigon blêr oedd hi, ond rhwydodd Devonte Redmond ac Omari Patrick i gipio’r triphwynt – a diogelwch am y tro.

Peniodd Devonte Redmond y bêl i’r rhwyd oddi ar groesiad Omari Patrick am y gôl gyntaf cyn i hwnnw rwydo’r ail gyda chwip o ergyd.

Mae Wrecsam bellach yn bedwerydd ar bymtheg ar ôl ennill dim ond eu hail gêm oddi cartre’r tymor hwn, tra bod Chorley yn aros ar y gwaelod.