Malan Vaughan Wilkinson sy’n dweud bod wal Cofiwch Dryweryn yn fwy na charreg a phaent…

Ddydd Mercher diwethaf daeth i’r amlwg fod wal Cofiwch Dryweryn wedi cael cot newydd o baent – ond un nad oedd i’w chroesawu.

Mae sleifio allan fin nos ac adfer y wal gyda phaent newydd sgleiniog wedi mynd yn rhyw fath o ddefod i bobol ifanc yr ardal dros y blynyddoedd.

Ond yn anffodus nid adfer y neges wnaeth bwy bynnag baentiodd y wal dros nos, ond ei gorchuddio gyda graffiti diystyr.

Mae rhai wedi bod yn pwyntio bysedd ar-lein ac ymysg y rheini sydd wedi gwadu cyfrifoldeb mae Ifan Lewis, sy’n astudio celf yng Nghaerdydd.

Pwy bynnag oedd yn gyfrifol – ac rydw i’n drwgdybio nad oedd y person hwnnw yn ymwybodol o arwyddocâd y wal – roedd yr ymateb yn ddiddorol iawn.

Yn ôl Ifan Lewis: “Mae’n ddiddorol bod pobl yn teimlo eu bod nhw eisie darn bach o garreg a phaent i gofio Tryweryn.”

Yn fy meddwl i, mae’r digwyddiad wedi codi cwestiynau pwysig am safle a gwerth Celf yn ogystal â chof cenedl.

Er fy mod i’n deall egwyddor yr hyn mae’n ei ddweud, rydw i’n credu fod y wal yn fwy na “darn bach o garreg a phaent”.  Mae’n ddarn o Gelf sy’n ysbrydoli.

Ewyllys

Siawns nad oes angen unrhyw gofeb ar Gymry i gofio digwyddiad Tryweryn, erbyn hyn. Mae’r hanes hwnnw wedi’i wau yn ddwfn yn enaid bob Cymro neu Gymraes bellach.

Ond mae gan y wal a’r slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ arwyddocâd ehangach. Mae’n symbol artistig, gweledol o ewyllys y Cymry i nodi a symud ymlaen o’r digwyddiad a fu’n ergyd i gymuned Tryweryn a chenedlaethau o Gymry.

Yn hynny o beth mae’r wal yn debyg i garreg fedd. Dych chi ddim yn codi carreg fedd rhag ofn eich bod chi’n anghofio’r person gafodd ei gladdu – does dim siawns o hynny.

Mae’n arwydd gan deulu, neu gymdeithas, bod rhywbeth yn werth ei gofio. Ac fel arfer mae yna neges arno, ryw wers o fywyd yr ymadawedig i’r cenedlaethau ar ei ôl.

Roedd yr ymateb cyntaf glywais i i’r graffiti – ‘Does gan bobol ddim parch!’ – yn awgrymu hynny hefyd. Yn union fel pe bai carreg fedd wedi ei difetha gan fandaliaid.

Artistig

Pwy a ŵyr ai datganiad gwleidyddol oedd peintio’r graffiti newydd, datganiad artistig, ynteu weithred ddifeddwl gan fandaliaid?

Ond beth bynnag y sbardun – hyd yn oed gyda darlun aneglur, hyll o graffiti newydd ar hen eiriau ’Cofiwch Dryweryn’ – mae ystyr yr hen wal yr un mor gadarn ag erioed.

Mae’n profi bod y gelf fwyaf pwerus yn fwy na’i chyfansoddiad – carreg,  paent a phwt o graffiti.

Mae’r wal yn ddatganiad ynddi’i hun ac yn bwysicach na dim efallai, yn ysbrydoli – ‘Cofiwch Dryweryn.’