Mae Gerwyn Price wedi dechrau’n gryf wrth geisio amddiffyn ei deitl yng nghystadleuaeth y Gamp Lawn (Grand Slam of Darts).

Fe gurodd e Mikuru Suzuki, merch o Japan, o 5-3 yn y rownd gyntaf yn Wolverhampton.

Mae’n amddiffyn ei deitl ar ôl curo Gary Anderson yn y rownd derfynol y llynedd.

“Ro’n i’n meddwl ei bod hi wedi chwarae’n dda mewn mannau,” meddai’r Cymro, sy’n gyn-chwaraewr rygbi.

“Ro’n i’n meddwl ei bod hi wedi cael sgôr da ar adegau pwysig, ac nid ar chwarae bach mae hi’n bencampwraig byd BDO.

“Mae’n dda cael merched yma, ond plis peidwich â’u rhoi nhw yn fy erbyn i!” meddai, a’i dafod yn ei foch.

“Mae hi’n chwaraewr gwych, ac yn cynnal enw da’r BDO hefyd.”