Mae John Hemming, cyn-aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw am welliannau yn y system gyfiawnder teuluol yn sgil beirniadaeth o farnwr a ddedfrydodd gyfreithiwr dan hyfforddiant i garchar wedi’i ohirio.

Cafwyd Nasrullah Mursalin yn euog o ddirmyg llys am fod gwaith papur personol wedi’i gynnwys ymhlith dogfennau cyfreithiol.

Dywed John Hemmings fod yr achos yn peri pryder am fod awgrym fod rheolau’n ymwneud â charcharu pobol yn gyfrinachol wedi cael eu torri.

Nid dyma’r achos cyntaf o’i fath, meddai’r cyn-aelod seneddol, sy’n galw am ymchwiliad.

Yr achos

Cafodd Nasrullah Mursalin ddedfryd o chwe mis o garchar wedi’i gohirio mewn gwrandawiad yn Reading ym mis Gorffennaf.

Fe wnaeth e herio’r ddedfryd a gafodd ei rhoi iddo gan y barnwr Kambiz Moradifar yn llwyddiannus yn y Llys Apêl fis diwethaf.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran y diffynnydd fod gan y barnwr agwedd “ffwrdd â hi” at y rheolau’n ymwneud â dirmyg llys.

Penderfynodd y Llys Apêl ddiddymu’r ddedfryd, gan fynegi nifer o bryderon am yr achos, gan gynnwys fod sawl camgymeriad wedi cael ei wneud wrth ddefnyddio prosesau i ddedfrydu.

Mae disgwyl i achosion dirmyg llys gael eu cynnal yn gyhoeddus, gydag enwau a dyfarniadau’n cael eu cyhoeddi hefyd.

“Dw i’n tybio fod hyn yn digwydd yn rhy aml i bobol nad ydyn nhw’n gyfreithwyr ac na fyddai’n apelio,” meddai John Hemming.

“Dw i’n credu ei bod yn bryd adolygu gweithredu’r rheolau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu dilyn.”