Mae miloedd yn rhagor o bobol yn protestio yn Hong Kong ar ôl i lys benderfynu peidio â gwyrdroi gwaharddiad y llywodraeth ar fygydau unwaith eto.

Dyma’r ail waith i brotestwyr herio’r dyfarniad sy’n atal protestwyr rhag cuddio’u hwynebau ar y strydoedd.

Daeth y gwaharddiad i rym ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 5) wrth i’r awdurdodau geisio dirwyn pedwar mis o brotestio a thrais i ben.

Cafodd llanc yn ei arddegau ei saethu yn ei goes nos Wener (Hydref 4) pan saethodd plismon ato mewn ymgais i’w amddiffyn ei hun.

Er bod y llys wedi gwrthod yr apêl yn erbyn y gwaharddiad, mae’r Uchel Lys wedi cytuno i gynnal gwrandawiad ar ôl i 24 o bobol gyflwyno cais yn erbyn defnydd Carrie Lam, prif weithredwr Hong Kong, o bwerau brys i gyflwyno’r gwaharddiad ar fygydau.

Ar hyn o bryd, dim ond Carrie Lam sydd â’r grym i wyrdroi’r gwaharddiad, a gallai unrhyw un sy’n gweithredu’n groes iddo gael eu carcharu am hyd at flwyddyn.