Yn dilyn buddsoddiad o £10.27 miliwn, mae Ysgol Godre’r Berwyn wedi agor ei drysau yn nhref Y Bala, Gwynedd.

Mae’r buddsoddiad yn rhan gynllun Ysgolion yr 21ain ganrif, ac wedi ei gyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â Chyngor Gwynedd.

Bydd yr ysgol ardal yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng tair a phedwar ar bymtheg oed.

Dywed y Cynghorydd Cemlyn Williams, deilydd y portffolio addysg ar Gyngor Gwynedd: “Mae’n wych gweld fod plant yr ardal yn dechrau elwa ar yr adnoddau gwych sydd ar gael yn Ysgol Godre’r Berwyn. Mae yna gryn ddisgwyl ymlaen wedi bod yn ardal Y Bala am y cynllun pwysig yma a’r buddsoddiad sylweddol yn addysg y plant. “

Ac wrth iddi groesawu’r disgyblion ar ddydd Llun (Medi 9), dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Bethan Emyr Jones: “Dyma gyfnod cyffrous iawn, ac rydw i’n falch iawn o gael croesawu’r disgyblion i’r ysgol. Fel staff, rydym yn edrych ymlaen at ddarparu addysg o’r safon uchaf bosib i ddisgyblion yr ardal.”

Anghydfod ynglŷn â’r ysgol

Daw hyn wedi cryn dipyn o anghydfod ynglŷn â fyddai’r ysgol yn un Gymunedol yntau yn un Eglwysig.

Ar ddechrau’r flwyddyn lansiwyd ymgyrch i sefydlu’r ysgol fel un gymunedol yn hytrach nag eglwysig gydag 364 o bobl yn arwyddo deiseb yn galw am hynny.

Ar y pryd roedd deiseb yn datgan: “Yn dilyn yr anghydfod diweddar rhwng Cyngor Gwynedd ac Esgobaeth Llanelwy ynglŷn â rhai agweddau cyfreithiol ar ffurf y trefniant i greu ysgol gydol oes Eglwysig yn Y Bala. Galwn ar Gyngor Gwynedd i ddiddymu’r Bartneriaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru ac i ail-hyrwyddo’r prosiect fel un ‘cymunedol’, lle na fydd gan yr ysgol newydd unrhyw gysylltiad statudol gydag enwad crefyddol penodol.”