Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud ei bod hi’n ffyddiog am y posibilrwydd o gael Brexit trefnus, er bod llai na deufis tan y dyddiad mawr ei hun.

Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, ac mae’n aneglur ar hyn o bryd pa un a fydd Boris Johnson yn llwyddo i gael cytundeb newydd ai peidio.

‘Perthynas dda’

Dywedodd Angela Merkel wrth wleidyddion ddydd Mercher (Medi 11): “Dw i o’r farn bod gennym siawns o hyd i gyflawni hyn mewn modd trefnus.”

Ond nododd fod yr Almaen hefyd yn barod ar gyfer Brexit heb gytundeb, a all olygu bod ganddi “gystadleuydd economaidd” wrth ei drws.

Ychwanegodd Angela Merkel ei bod hi’n awyddus i sicrhau bod gan yr Almaen a gwledydd Prydain berthynas dda o ran masnach a diogelwch wedi Brexit.