Mae Plaid Cymru wedi galw ar i Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol ddychwelyd i Fae Caerdydd a San Steffan cyn mis Medi er mwyn trafod Brexit.

Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Phrif Weinidog Prydain, Boris Johnson, mae’r blaid yn dweud bod Brexit heb gytundeb ar Hydref 31 yn “gynyddol debygol”.

Daw’r pryder hwnnw, meddai Adam Price a Liz Saville Roberts, awduron y llythyr, wrth i Boris Johnson ddal ei dir ynghylch cael gwared ar y trefniant ynglŷn â’r ffin yng Ngogledd Iwerddon, trefniant y mae’n ei wrthwynebu.

Mae’r ddau o arweinwyr Plaid Cymru hefyd yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn arwain at “ganlyniadau andwyol difrïol” i swyddi yng Nghymru, yn ogystal â bygythiad o brinder bwyd a meddyginiaeth.

Mae disgwyl i’r ddwy Senedd – Bae Caerdydd a San Steffan – ddychwelyd ar Fedi 3.

“Argyfwng mwyaf mewn amser heddwch”

“Mae’n hollbwysig galw Senedd San Steffan yn ôl cyn Medi 3 er mwyn rhoi cyfle iddi adfyfyrio’n iawn ar ewyllys democrataidd ei haelodau o ran penderfynu a ddylai’r Deyrnas Gyfunol adael heb gytundeb ar Hydref 31,” meddai’r llythyr.

“Yn sgil hynny, mae’n hanfodol rhoi cyfle i ewyllys democrataidd pobol Cymru, fel y’i cynrychiolir gan y Senedd, i’w fynegi ei hun cyn mis Medi.

“Dyna pam ein bod yn ysgrifennu atoch i ofyn i chi ymuno â ni i alw’r Senedd yn ôl yn syth, i drafod yr hyn sydd, yn ddiamau, yn argyfwng mwyaf mewn amser heddwch y wynebwyd gan Gymru a’r Deyrnas Gyfunol yn y cyfnod modern.”

Llywodraeth Cymru yn dal i “weithio’n galed”

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, er bod y Cynulliad ar doriad ar hyn o bryd, mae gweinidogion wedi bod yn “gweithio’n galed” yn ystod yr haf er mwyn “helpu atal Brexit heb gytundeb”.

“Rydym wedi parhau i godi ein pryderon yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog Prydain a gweinidogion Llywodraeth Prydain yn ystod toriad yr haf, ac wedi cynyddu ein paratoadau ar gyfer dim cytundeb,” meddai.

“Mater i’r Llywydd yw galw yn ôl y Cynulliad.”

Stryd Downing – ‘dim yn dychwelyd tan Fedi 3’

Mae llefarydd ar ran Stryd Downing wedyn wedi dweud na fydd Tŷ’r Cyffredin yn ailgychwyn nes Medi 3, y dyddiad a bennwyd gan Aelodau Seneddol.

“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir fod y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31,” meddai.

“Rydym yn ffafrio cytundeb ac fe fyddwn ni’n gweithio’n ddiflino i sicrhau cytundeb newydd a gwell. 

“Fodd bynnag, os na fydd hynny’n bosib, fe fyddwn ni’n gadael heb gytundeb ac mae yna baratoadau sylweddol ar waith i sicrhau y byddwn ni’n barod ar Hydref 31.

“Fe gytunodd Tŷ’r Cyffredin ar ddyddiad toriad yr haf, yn ogystal â’i ddychwelyd ar ddydd Mawrth, Medi 3.”