Fe fydd Falyri Jenkins, o Dal-y-bont yng Ngheredigion, yn camu ar lwyfan y pafiliwn heddiw (dydd Llun, Awst 5) i dderbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams.

Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad mawr yn eu hardal leol, ac yn arbennig gyda phobol ifanc.

O Sling ger Bethesda, Gwynedd, daw Falyri Jenkins yn wreiddiol. Fe raddiodd hi yng Ngholeg Normal, Bangor, cyn mentro i fyd addysg bellach yn Wrecsam.

Ers symud i Aberystwyth yn 1974 mae hi wedi bod yn cyfrannu’n fawr yn yr ardal, cyn ymgartrefu yn Nhal-y-bont yn 1978.

Yn ôl ei chydweithwyr mae hi’n athrawes o’r radd flaenaf, ac mae Estyn wedi’i disgrifio hi fel “chwip o athrawes.”

Mae hi wedi cynhyrchu nifer o lyfrau cerddoriaeth i blant o bob cwr o Gymru fel Caneuon Bys a Bawd a Clap a Chan i Dduw – casgliad o emynau modern ar gyfer ysgolion ac ysgolion Sul.

Ond yn ei hardal leol ac ym myd addysg mae Falyri Jenkins wedi gwneud yr argraff fwyaf. Bu’n gwneud llawer iawn o waith gwirfoddol ar lawr gwlad yng Ngheredigion yn cefnogi gwaith ieuenctid Ysgol Sul Bethel, gyda’r Cylch Meithrin, a gyda’r Clwb Ieuenctid Cristnogol.

Ar ben hynny bu’n gweithio fel golygydd i’r papur bro leol, Papur Pawb, yn Nhal-y-bont, gyda’i gwr, ac yno fel gohebydd y pentref am dros ddeng mlynedd. Mae hi dal i gyd-olygu rhifyn misol ac yn gwneud yn siŵr bod rhan ohono wedi’i neilltuo i weithgareddau plant.