Mae Prif Gwnstabl Gogledd Iwerddon wedi rhybuddio y bydd ffin galed o ganlyniad i Brexit yn cael effaith niweidiol ar y broses heddwch yno.

Dywedodd Simon Byrne y gallai ffermydd a busnesau amaethyddol fynd i’r wal, anifeiliaid yn cael eu lladd ac anhrefn cymdeithasol.

Daw ei rybudd ddiwrnod ar ôl i Taoiseach y Weriniaeth, Leo Varadkar, atgoffa Boris Johnson a Jeremy Hunt nad yw Prydain “mor bwysig ag y bu” yn fyd-eang.

Dywed y Prif Gwnstabl fod arno eisiau atebion gan lywodraeth Prydain ar sut mae disgwyl i Heddlu Gogledd Iwerddon warchod tua 300 o groesfannau ar y fin rhag bygythiad gan grwpiau o weriniaethwyr.

“Dw i’n bryderus y bydd Brexit caled yn creu gwagle a fydd yn arwain at recriwtio gweriniaethwyr gwrthryfelgar, ac mae’n amlwg y byddai unrhyw gynnydd yn eu poblogrwydd neu eu gallu yn ddifrifol iawn,” meddai.

Croesfannau

Dywed ei fod ef a’i swyddogion yn cynnal trafodaethau gydag uwch-weision sifil fel bod pryderon yr heddlu yn glir.

“Y cwestiwn penodol sydd gen i i Lundain yw sut mae disgwyl inni blismona ffin galed yma?” meddai.

“Dw i’n meddwl y bydd y 300 o groesfannau swyddogol yn codi pob mathau o gwestiynau ynghylch y potensial am smyglo.

“Ar wahân i’r cwestiwn o blismona, dw i’n bersonol yn bryderus iawn am yr effaith ar amaethyddiaeth yma.

“Os bydd tariffau yn newid ac yn gostwng fe fyddwn ni’n gweld anifeiliaid yn cael eu lladd a phobl yn mynd allan o fusnes, a all arwain at anhrefn.

“Y munud y byddwn ni’n mynd i’r ffin mewn sefyllfa o’r fath fy mhryder yw y bydd fy mhlismyn a’m staff yn dod yn darged i weriniaethwyr gwrthryfelgar.

“Dw i’n gwbl bendant fy marn y byddai Brexit caled yn cael effaith niweidiol ar y broses heddwch.”