Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau na fydd yr oedfa ar Sul cyntaf y Brifwyl yn Llanrwst eleni yn cael ei chynnal yn y pafiliwn, ond mewn capel yn y dref.

Yn dilyn trafodaethau rhwng trefnwyr yr Eisteddfod a mudiad Cytûn, bydd yr oedfa ar Awst 4 yng Nghapel Seion, Llanrwst, er bod ei chynnal ar Lwyfan y Maes wedi bod yn un opsiwn oedd o dan ystyriaeth.

“Trafodwyd lleoliad yr Oedfa yn wreiddiol cyn y Nadolig, ar ôl i Bwyllgor Gwaith yr ŵyl benderfynu y byddai cynnal yr Oedfa oddi ar y Maes yn ffordd o ddenu Eisteddfodwyr i ganol tref Llanrwst yn fuan yn yr wythnos,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Roedd Cytûn yn awyddus i barhau i gynnal yr Oedfa ar Faes yr Eisteddfod, felly penderfynwyd arbrofi yn Sir Conwy a chynnal y gwasanaeth ar Lwyfan y Maes, gan sicrhau bod lle i gannoedd o bobol ddod ynghyd i gyd-addoli.

“Yr wythnos hon, mae Cytûn wedi cysylltu gyda’r Eisteddfod i ddweud eu bod wedi penderfynu symud yr Oedfa i Gapel Seion, Llanrwst wedi’r cyfan, yn hytrach na’i chynnal ar y Maes fore Sul.  

“Dyma oedd dymuniad gwreiddiol Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn lleol, ac rydym yn falch bod yr Oedfa am gael ei chynnal mewn gofod pwrpasol, a hynny yn y dref.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn cael ei chynnal rhwng Awst 3 a 10.