Bu farw’r cyn Aelod Senedd Ewropeaidd, Eurig Wyn, yn ei gartref yn Waunfawr, Gwynedd, yn 74 oed.

Roedd wedi bod yn dioddef o afiechyd Parkinsons ers rhai blynyddoedd ac yn dilyn damwain dair wythnos yn ôl,  cafodd ei gludo i’r adran trawma yn Stoke. 

Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Gwynedd ac yna dychwelodd i’w gartref yr wythnos yma lle bu farw neithiwr (dydd Mawrth, Mehefin 26). 

Mae’n gadael ei wraig Gillian Wyn, eu plant Euros a Bethan, a’i wyrion Beca, Ani, Math a Macsen. 

Gyrfa liwgar

Cafodd Eurig Wyn ei eni yn 1944 yn Hermon, ger Crymych, yng ngogledd Sir Benfro. 

Ar ôl astudio yng Ngholeg Aberystwyth aeth ymlaen i ddysgu yng Nghaerdydd am dair blynedd, cyn ymuno â’r BBC yn y brifddinas. 

“Roedd o’n ohebydd chwaraeon, yn ddarllenwr newyddion i’r BBC, ac yn sgil hynny fe ddaeth yn drefnydd i Blaid Cymru,” meddai ei gyfaill agos, Rob Jones, o Waunfawr. 

Yn 1999 fe’i etholwyd yn Aelod Senedd Ewropeaidd gyda’r Blaid gan aros yn y swydd am bum blynedd cyn dod yn agos iawn at gipio sedd Llafur yn Ynys Môn adeg yr etholiad cyffredinol ym 2005. 

“Yn dilyn seibiant, fe ddaeth yn gynghorydd Sir Gwynedd yn cynrychioli ardal Waunfawr a Dyffryn Gwyrfai,” meddai ei gyfaill.  

 “Dyn y bobl”

Fuodd Eurig Wyn hefyd yn aelod o fwrdd y Parc Cenedlaethol, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd ac yn gyfarwyddwr i Antur Waunfawr. 

“Roedd o’n gymwynaswr, yn ddyn triw iawn, yn ddyn y bobol, yn llawn hiwmor, ac yn ffrind anhygoel,” meddai Rob Jones. 

“Fe fyddai’n esiampl i wleidyddion yr oes yma, yn sicr. Roedd o’n wleidydd heb unrhyw fath o falais ac erioed a gair drwg am neb.”

“Dwi’n cofio bod hefo fo yn yr Eisteddfod un flwyddyn a daeth gwleidydd un o’r prif wrthbleidiau yn Ewrop ato a dweud wrtho i’w lygaid, “we miss you,” – dyna’r maeth o ddyn oedd Eurig.”

“Person sy’n prinhau”

Yn ôl Norman Williams o Waunfawr, “roedd y rhan fwyaf yn y pentref yn ffrindiau efo Eurig.”

“Fuodd o’n ofnadwy o weithgar yma, yn gynghorydd diwyd iawn. Fydd ‘na golled fawr ar ei ôl – roedd o’n ddyn amryddawn, diwylliedig a’r math o berson sy’n prinhau mewn cymdeithas bentrefol fel Waunfawr.

“Roedd ganddo fo un o’r lleisiau gorau ym maes darlledu a fo oedd y llais ar yr LP o’r opera roc Gymraeg llwyddiannus gynta’, Nia Ben Aur,” meddai Dylan Iorwerth, Prif Weithredwr Golwg cyf. 

“Oedd o’n foi annwyl, hawddgar ac yn licio hwyl.”

Roedd Eurig Wyn hefyd yn ewythr i’r actorion Rhys a Llŷr Ifans ac yn frawd yng nghyfraith i Lisabeth Miles a Gareth Miles.

Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd Cyngor Gwynedd: “Roedd hi’n fraint i mi gael dilyn Eurig fel cynghorydd Waunfawr ar Gyngor Gwynedd pan benderfynodd o gamu lawr tair blynedd yn ôl.

“Roedd Eurig yn gyfaill annwyl ac yn sicr bydd y gymuned gyfan yn cofio am ei waith diflino fel aelod lleol dros Waunfawr. Fel gwr bonheddig a Chymro i’r carn, rydw i’n gwybod ei fod yn aelod uchel ei barch gan gynghorwyr ar draws y Cyngor a’i fod bob amser am weld y gorau dros Wynedd a Chymru.

“Fel Cyngor, anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu.”

Meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Roedd Eurig yn gymeriad hawddgar a hoffus ac yn wleidydd praff a roddodd oes o wasanaeth i Gymru a’r Gymraeg. Bu’n fraint cyd-wasanaethu ag ef ar Gyngor Gwynedd a thristwch yw ei golli.”