Mae polisïau i leihau allyriadau llygredd wedi gwella ansawdd yr aer ac wedi gostwng y nifer o farwolaethau dros y 40 blynedd diwethaf, yn ôl astudiaeth. 

 

Fe edrychodd  y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ar lygryddion fel ocsidau nitrogen sy’n niweidio iechyd, gronyn mân a elwir yn PM2.5, a sylffwr deuocsid dros 40 mlynedd rhwng 1970 a 2010.

 

Yn ystod y cyfnod hwn cafodd nifer o bolisïau fel Deddf Awyr Glan 1993 eu cyflwyno, ynghyd a gweithredoedd o Ewrop a chonfensiynau rhyngwladol i reoli llygredd aer.

 

Yn ôl yr ymchwil mae allyriadau blynyddol o ronyn PM2.5, ocsidau nitrogen, sylffwr deuocsid a chyfansoddion organig anweddol sydd ddim yn fethan yng ngwledydd Prydain i gyd wedi gostwng yn sylweddol, o rhwng 58% a 93%, dros y 40 mlynedd.

 

O 1970 i 2010 fe ostyngodd y nifer o farwolaethau gafodd eu cysylltu â gronyn PM2.5 o tua 12% i 5%. 

 

Ar yr un pryd fe ostyngodd y marwolaethau sydd wedi’u cysylltu â nitrogen deuocsid o 5% i 3%. 

 

“Argyfwng” yn parhau

 

Er hyn, mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn rhybuddio bod aer budr yn parhau i fod yn “argyfwng” i iechyd cyhoeddus. 

 

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 28,000 i 36,000 o farwolaethau cynnar oherwydd llygredd aer yng ngwledydd Prydain bob blwyddyn.

 

“Mae polisïau ar ansawdd aer yn gweithio – maent wedi gwella ansawdd aer yng ngwledydd Prydain yn fawr iawn yn ystod cyfnod yr asesiad,” dywedodd Dr Sotiris Vardoulakis, un o awduron yr astudiaeth. 

 

“Ond mae llygredd aer yn dal i fod yn faich sylweddol iawn ar iechyd y cyhoedd, mae’n argyfwng iechyd cyhoeddus ac mae angen i ni wneud rhywbeth am hynny.”