Roedd athro 67 oed y cafwyd hyd i’w gorff fis diwethaf yn destun ymchwiliad i honiadau o ymosod yn anweddus mewn ysgol uwchradd, yn ôl Heddlu’r De.

Roedd yr honiadau fod Clive Hally wedi cyflawni’r troseddau tra oedd yn athro yn Ysgol Uwchradd Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr 35 o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd ei arestio’n gynharach eleni, a’i ryddhau ar fechnïaeth, ond cafwyd hyd i’w gorff mewn cronfa ddŵr cyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddod i benderfyniad ynghylch ei gyhuddo neu beidio.

Bydd y cwest i farwolaeth Clive Hally yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd.

Roedd yn athro yn yr ysgol am 36 o flynyddoedd rhwng 1975 a 2011.
Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer y crwner, ac mae dau ddyn, sydd bellach yn 48 a 50 oed, sy wedi gwneud honiadau yn ei erbyn, wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Datganiad yr heddlu

“Mae Heddlu De Cymru’n trin pob adroddiad o ymosod yn rhywiol yn ddifrifol, ac yn annog dioddefwyr i ddod ymlaen i’w riportio, pryd bynnag y digwyddodd, gan wybod y byddan nhw’n cael eu trin â pharch ac urddas, ac y bydd ymchwiliad llawn i’w honiad,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

“O dan y fath amgylchiadau, lle bu farw troseddwr honedig neu sydd dan amheuaeth, bydd swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn parhau i dderbyn cofnod dioddefwr ac yn ymchwilio iddo cyhyd â phosib.

“Bydd gan ddioddefwyr fynediad hefyd i gefnogaeth gan ystod o asiantaethau sy’n bartneriaid.”