Mae’r giatiau i Ŵyl Glastonbury wedi agor yn swyddogol – yn barod i dderbyn rhagor na 200,000 o bobol.

Roedd llawer o ffans cerddorol wedi dechrau teithio i’r safle ar dir fferm yn Pilton, Gwlad yr Haf (Somerset) ddoe (ddydd Mawrth), gyda llawer yn dewis ysgu yn eu ceir dros nos er mwyn bod ymhlith y cyntaf i gael mynediad.

Roedd y tywydd ychydig yn gymylog a gwlyb y bore ’ma pan agorodd y giatiau am 8yb, er y disgwylir digonedd o heulwen a thymheredd o hyd at 23C (73.4F) erbyn canol y prynhawn.

Mae’r trefnwyr wedi gwahardd y defnydd o boteli plastig o’r safle 900-erw, Ynys Wydrin, gan erfyn ar bobol i ddod a’u poteli eu hunain i’w llenwi am ddim.

Bydd y digwyddiad – sef yr ŵyl gerddorol fwyaf o’i bath yn y byd – yn para pum diwrnod gyda Stormzy, The Killers a’r The Cure ymhlith y prif fandiau.

Gwerthwyd y tocynnau safonol ar gyfer Glastonbury 2019 i gyd o fewn 36 munud.

Wrth iddo agor y giatiau y bore ’ma dywedodd perchennog y fferm, Michael Eavis: “Mae’r tywydd yn edrych yn wych. Diolch ichi am ddod. Croeso ichi i Fferm Worthy.”