Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 74 oed yn ei gartref ym Môn, yn credu iddo gael ei “dargedu’n fwriadol”.

Cafodd Gerald Corrigan ei saethu gan fwa croes tra roedd yn addasu safle lloeren yn ei gartref mewn ardal anghysbell ger Caergybi ar Ebrill 19.

Cafodd y pensiynwr ei anafu’n ddifrifol yn ystod y digwyddiad a bu farw’n ddiweddarach ar Fai 11.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae’r ymdrech i chwilio am yr unigolyn neu’r unigolion sy’n gyfrifol am y llofruddiaeth yn parhau, gyda dros 50 swyddog a staff yn gweithio yn rhan o’r tîm ymchwilio.

“Wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen, mae pob arwydd yn dangos y cafodd Gerald Corrigan ei dargedu’n fwriadol,” meddai DCI Brian Kearney.

Teyrngedau

Cafodd angladd Gerald Corrigan ei gynnal yn Eglwys Babyddol St Vincent De Paul yn Knutsford ddoe (dydd Llun, Mehefin 24).

Ymhlith yr unigolion a dalodd deyrnged iddo oedd ei gymar, Marie Bailey, a ddisgrifiodd y cyn-ddarlithydd yn “ffrind gorau ac enaid hoff cytûn”.

“Mae ei deulu a’i ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion i gyd wedi syfrdanu yn dilyn ei lofruddiaeth ddisynnwyr,” meddai Marie Bailey.

“Roeddem ni i gyd yn ei garu ac yn ei barchu. Byddaf yn trysori’r atgofion amdano am weddill fy mywyd, er mi fuasai’n well gen i ei drysori ei hun, nid yn unig yr atgof amdano.”

Cafwyd teyrngedau gan blant Gerald Corrigan hefyd, gyda’i ferch, Fiona Corrigan, yn dweud bod ei thad yn “ddyn caredig a doniol”.