Mae Cadw wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu rhoi statws Gradd II i’r capel coffa ar lannau Llyn Celyn ger y Bala.

Cafodd y capel coffa ei ddylunio gan y cerflunydd o Aberystwyth, R L Gapper ar ôl i bentref Cwm Celyn gael ei foddi er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer dinas Lerpwl yn yr 1960au.

Mae’r capel yn eiddo i Ddŵr Cymru, ac mae wedi ei leoli ar lan ogledd-orllewinol Llyn Celyn, a hynny ar safle fferm Gwern Delwau, a ddymchwelyd adeg adeiladu’r gronfa ddŵr.

Mae’r ardd goffa yn gartref i’r cerrig beddi a gafodd eu symud o’r Capel Celyn gwreiddiol, yn ogystal â chlogfeini o’r caeau a’r maen dyddio o’r hen gapel.

Bu pryderon y llynedd ynghylch cyflwr y capel coffa, gyda un o hen drigolion Capel Celyn yn dweud ei fod yn “warthus”.

Cydnabod gwerth hanesyddol

Bydd y capel coffa yn cael ei restru’n adeilad Gradd II ar sail ei ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd ei restru yn sicrhau bod “ei ddiddordeb hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod.”

Mae cyfnod o ymgynghori ar y rhestru eisoes wedi cychwyn, gyda’r nod o roi’r statws arfaethedig i’r capel yn dilyn cyfnod o 28 diwrnod.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, mae Dŵr Cymru wedi addo cynnal a chadw’r capel ar gyfer y cyhoedd.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei gynnal a’i wella fel ei fod yn parhau’n hygyrch i’r cyhoedd – ac rydym wedi bod yn gweithio gyda grwpiau ymgyrchu lleol a Cadw ar y ffordd orau o gyflawni hyn,” meddai Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones.