Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddynes sydd ar goll o ganolbarth Lloegr.

Aeth Julia Rawson, 42, ar goll o’i chartref yn Dudley ar Fai 12.

Cafwyd hyd i’r corff yn Tipton nos Fercher (Mehefin 12).

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o’i llofruddio, ac fe aethon nhw gerbron ynadon Walsall ar Fai 27.

Mae Nathan Maynard-Ellis, 28 oed o Tipton, a David Leesley, 23 o Russell’s Hall, wedi cael eu cadw yn y ddalfa.