Fel cenedl mae gennym le i ymfalchio yn ein Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, Ruth Marks. Ers sefydlu’r corff yn 2008, bu gan y comisiwn bŵer statudol i ddiogelu hawliau ac i hybu buddiannau pobl hŷn dros 60 oed led led y wlad.

Yn wir, Cymru oedd y genedl gyntaf i benodi comisiynydd o’r fath a hyd nes mis Tachwedd eleni, Ruth Marks fyddai’r unig Gomisiynydd Pobol Hŷn ar wyneb y ddaear. Bu Llywodraeth Cymru’n arloesol yn creu swyddfa’r comisiwn a bydd Gogledd Iwerddon yn efelychu ein camp mis nesaf gydag apwyntiad Claire Keatinge fel eu comisiynydd hwy.

‘Pryder’

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru ei hadroddiad blynyddol, gan amlinellu ei chonsyrn am yr hyn oedd yn peri pryder i bobol hŷn ein gwlad. Yn ôl y comisiynydd un o’r achosion oedd yn gynyddol eu poeni, oedd materion ariannol yn sgîl y dirwasgiad a chynnydd mewn costau tanwydd.

Mater arall oedd yn gofidio’r Comisiynydd oedd triniaeth yr henoed mewn ysbytai a chartrefi gofal ac arweiniodd adroddiad diweddar ganddi at newidiadau yn y ffordd y caiff bobol hŷn eu trîn mewn sefydliadau o’r fath.

Cam pwysig ymlaen i hawliau pobol hŷn a ddaeth yr wythnos diwethaf oedd cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan na fyddai hawl gan gyflogwyr bellach i orfodi eu gweithwyr i ymddeol wedi iddynt gyrraedd eu pen-blwydd yn 65.

‘Cyfraniad enfawr’

Pwysleisiodd y Comisiynydd Pobol Hŷn wrth roi tystiolaeth i bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yr wythnos hon fod gan bobl hŷn ‘gyfraniad enfawr’ i’w wneud tuag at gymdeithas yng Nghymru ond hefyd fe dybiaf y cytunai fod ganddynt rôl a chyfraniad gwerthfawr yn y gweithle hefyd.

Ers rhai blynyddoedd yn Positif Politics bu Beryl Wichard yn aelod egniol o’r staff ac yn gweithio fel Ymgynghorydd Gwleidyddol am dridiau’r wythnos. Bellach, yn 69, cafodd ei gorfodi o’i swydd flaenorol, gan ei fod yn bolisi gan y sefydliad hwnnw na fyddant yn cyflogi unrhyw un dros oed ymddeol.

‘Ymddeol’

Nid oedd problem na chwyn o gwbl ynglŷn â’i gwaith, i’r gwrthwyneb, mi ymbiliodd ei rheolwr ar y pencadlys er mwyn ei chadw ond rheol oedd rheol, ac mi roedd yn rhaid i Beryl fynd. Yn ffodus mi gafodd waith yn ddigon hawdd oherwydd nid oedd hi’n barod i ymddeol ac yn mwynhau gweithio a bod yn rhan o weithle.

Mae hi bellach yn aelod ffraeth a bywiog o’r tîm ac yn llawer mwy meistrolgar gyda thechnoleg newydd nag amryw o’i chydweithwyr sy’ flynyddoedd yn iau. Bu diweddglo hapus i boen meddwl Beryl ond i nifer o bobol hŷn nid oes ganddynt yr egni na’r llais i gwyno ac felly dyna pam ei bod hi mor hanfodol bwysig bod gennym Gomisiynydd Pobol Hŷn i gynrychioli’r garfan bwysig hyn yn ein cymdeithas.