Mae dros 150,000 o swyddi wefi’u colli o fewn y diwydiant dur yng ngwledydd Prydain ers yr 1980au, yn ôl astudiaeth newydd.

Yn 1981 roedd y diwydiant yn cyflogi 186,000 o weithwyr, ond mae’r nifer wedi disgyn i 32,000 erbyn hyn, yn ôl undeb y GMB.

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn y trafodaethau i sicrhau dyfodol cwmni British Steel.

“Mae dirywiad diwydiant dur gwledydd Prydain yn anodd i dfygymid ag ef,” meddai Ross Murdoch, swyddog cenedlaethol GMB.

“Mae llywodraethau gwledydd Prydain yn y gorffennol wedi methu â diogelu ein treftadaeth dur balch, a nawr mae Theresa May yn goruchwylio ei ddirywiad.

“Rhaid i weinidogion fod yn barod i ddefnyddio’r holl opsiynau – gan gynnwys gwladoli – er mwyn arbed British Steel a’r diwydiant dur ehangach.”