Mae caniatáu’r cwmni Huawei o Tsieina gael rôl yn adeiladu rhwydwaith 5G gwledydd Prydain “yn peryglu diogelwch yn ddiangen”, yn ôl cynbennaeth i’r asiantaeth gudd MI6.

Fe fyddai defnyddio offer Huawei yn rhoi llywodraeth Tsieina mewn “safle manteisiol” yn y rhwydwaith telathrebu yn y dyfodol, meddai Syr Richard Dearlove.

Trump wedi gweithredu

Dyma’r feirniadaeth ddiweddaraf gan ffigwr blaenllaw sy’n lleisio pryder ar ôl adroddiadau fis diwethaf bod y Prif Weinidog, Theresa May, yn barod i wneud Huawei yn gyfrifol am rai elfennau o’r rhwydwaith.

Bellach, maer Unol Daleithiau eisoes wedi gwahardd cwmnïau’r wlad rhag defnyddio cwmnïau telathrebu o dramor ac mae’r Arlywydd Donald Trump wedi creu “stad argyfwng” er mwyn gwneud hynny.

Dyw Llywodraeth gwledydd Prydain heb wneud penderfyniad terfynol ar ran Huawei ar y rhwydwaith newydd eto.

Cafodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson, ei ddiswyddo gan Theresa May ar ôl i wybodaeth am gyfarfod y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol am Huawei gael ei gollwng.

dd MI6.