Mae dyn, 80, wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dynes oedrannus yng Ngheredigion.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff y ddynes mewn tŷ yn ardal Pennant ger Aberaeron ddiwedd yr wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Mai 10).

Mae’r dyn a gafodd ei gludo i’r ddalfa bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau i wneud ymholiadau.

Dywed llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.