Cafodd bachgen 12 oed ei gludo i’r ysbyty ar ôl disgyn 45 troedfedd oddi ar glogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr brynhawn ddoe.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, fe lwyddodd y bachgen i oroesi’r digwyddiad yn Rhosili wedi iddo dderbyn anaf i’w ben a llawer o gleisiau.

Ar ôl cael ei achub, fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd er mwyn derbyn triniaeth.

Dywedodd llefarydd  ar ran Gwylwyr y Glannau Rhosili yn bod y bachgen yn “lwcus iawn” na chafodd anafiadau pellach.

Roedd Gwylwyr y Glannau’r Mwmbwls hefyd yn bresennol yn ystod y digwyddiad.