Mae ymchwiliad yn cael ei lansio heddiw fydd yn edrych ar sut mae diogelu a thyfu cerddoriaeth fyw yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn sawl ymgyrch yn ddiweddar oedd yn gwrthwynebu cau lleoliadau cerddoriaeth ar draws y wlad gan cynnwys y Gwdihŵ yn Guilford Crescent, Caerdydd, Y Parrot yng Nghaerfyrddin a chynlluniau blaenorol i adeiladu gwesty ar Womanby Street yn y brifddinas.

Yn ôl ffigurau UK Music  mae 35% o leoliadau cerddoriaeth wedi cau dros y degawd diwethaf yng ngwledydd Prydain

“Angen gweithredu nawr

Bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar faterion sy’n effeithio ar y diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru mewn ardaloedd trefol a gwledig.

“Mae Cymru yn genedl gerddorol ac rydym i gyd yn ymfalchïo yn hynny,” meddai Bethan Sayed, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

“Ond er mwyn i’r diwydiant oroesi a ffynnu, mae angen i ni ddeall yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu lleoliadau, artistiaid a phawb sy’n cyfrannu at lwyddiant y diwydiant.

“Mae’r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn llawn talent ond, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig ffynnu, mae angen i ni weithredu nawr er mwyn eu cefnogi nhw ac artistiaid yn y dyfodol

“Blynyddoedd heriol”

Mae Guto Brychan, prif weithredwr Clwb Ifor Bach a Sŵn yn dweud bod y “blynyddoedd diweddar wedi bod yn rhai heriol iawn i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru.”

“Mae’r ffaith bod nifer o leoliadau cerddorol llawr gwlad amlwg wedi cau wedi cyfyngu’n ddifrifol ar y cyfleoedd sydd ar gael i artistiaid newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.

“Mae Cymru yn parhau i gynhyrchu artistiaid newydd gwych a bydd canlyniadau’r ymchwiliad hwn yn gosod sylfaen er mwyn cryfhau’r seilwaith sydd ei angen i gynnal a datblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn y dyfodol,” meddai.