Mae tri aelod o Gabinet Theresa May wedi galw am oedi Brexit os nad yw Senedd San Steffan yn cymeradwyo cytundeb yn y dyddiau nesaf.

Wrth rybuddio’n gyhoeddus am y tro cyntaf a chyn pleidleisiau pwysig yn Nhy’r Cyffredin, dywedodd Greg Clark, Amber Rudd aDavid Gauke wrth y Daily Mail fod amser yn prinhau a’u bod yn gobeithio y bydde yna ddatrysiad o’r trafodaethau yn fuan.

Os na fydd hynny yn digwydd, dywedodd y tri eu bod yn barod i herio Theresa May a phleidleisio am oedi.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing fod Theresa May yn “gweithio’n galed” i geisio sicrhau cytundeb gyda’r GE i’w chaniatau i weithredu canlyniad y refferendwm.

Mae’r Deyrnas Gyfunol i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29.

Ond mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod fwy nag unwaith y posibilrwydd y bydd y DG yn gadael heb gytundeb ffurfiol os nad yw Mrs May yn llwyddo i gael Aelodau Seneddol i gymeradwyo cytundeb a drafodwyd ganddi hi a Brwsel mewn pryd.

Disgwylir y bydd ASau yn trafod Brexit eto ddydd Mercher ac ystyried cynnig gan y cyn weinidog Toriaidd Syr Oliver Letwin ac Yvette Cooper o’r Blaid Lafur i roi cyfle i Senedd San Steffan i oedi Brexit a rhwystro sefyllfa dim cytundeb os nad oes yna gytundeb gyda’r UE erbyn canol mis Mawrth.

Mae Mr Clark, Ms Rudd a Mr Gauke yn dadlau os nad yw’r cytundeb yn cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol yn fuan yna “fe fyddai’n well i geisio estyn Erthygl 50 ac oedi ein dyddiad ymadael yn hytrach na disgyn allan o’r UE ar Fawrth 29.”

Dywedodd Mr Clark, yr ysgrifennydd busnes, ynghyd a Ms Rudd, yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau, a’r ysgrifennydd cyfiawnder, Mr Gauke, fod yna wedi bod “fisoedd o ansicrwydd.”